LLB

Law and Cymraeg Proffesiynol

LLB Law and Cymraeg Proffesiynol Code MQ56 Attend an Open Day Attend an Open Day

Apply Now

You are viewing this course for September start 2022

Mae datganoli Llywodraeth Cymru a chyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod y gallu i siarad a deall Cymraeg ar lefel uchel a deallusol yn ddeniadol i gyflogwyr. Wrth i gyfreithiau Cymreig gynyddu, felly hefyd mae’r galw am gyfreithwyr sydd â’r gallu i drin a thrafod y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ac o fewn cyd-destun Cymreig.

Bwriad y rhaglen hon yw paratoi myfyrwr ar gyfer y Gymru gyfoes a thu hwnt.

Mae’r Gyfraith yn bwnc amrywiol sy’n esblygu o hyd wrth iddo ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’n rheoli pob agwedd o’n bywyd dyddiol, o anghydfodau rhwng cymdogion a gwarchod yr amgylchedd i faterion cyflogaeth a darpariaeth gofal iechyd. Mewn cymdeithas fodern, ddemocrataidd, mae’r gyfraith yn bodoli i sicrhau cyfiawnder.

Mae’r elfen Cymraeg Proffesiynol yn cael ei ddysgu gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Ar y cwrs yma byddwch yn datblygu sgiliau sy’n ymwneud â defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol ac o fewn y gweithle. Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sydd â phrofiad helaeth mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol, astudio a hybu treftadaeth, golygu a chyhoeddi.

Course Overview

Pam astudio LLB Y Gyfraith / Cymraeg Professiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Caiff y rhaglen hon ei haddysgu ar y cyd gan Adran y Gyfraith a Throseddeg a’r Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Yn ogystal â'r modiwlau cyfraith sylfaenol, sy'n cynnwys y rhai sydd eu hangen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr (gan ennill 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith'), rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes.

Gellir astudio nifer o fodiwlau’r Gyfraith a Throseddeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cynnig cyfleoedd eang i ddatblygu sgiliau cyfathrebu. Mae’r Gymdeithas Ymryson yn agored i holl fyfyrwyr yr adran ac mae’n rhoi cyfle i aelodau ddatblygu chystadleuaeth ffug lys barn. 

Our Staff

Department of Law and Criminology lecturers are mostly either qualified to PHD level or have professional experience and qualifications as practicing lawyers. Many staff also have a PGCE (Higher Education).

All academic staff in the Department of Welsh and Celtic Studies are research active scholars and experts in their chosen fields of study, including the study of languages and literatures as well as creative writing.

Modules September start - 2022

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Core

Module Name Module Code Credit Value
Legal and Criminal Justice Systems LC10120 20

Options

Module Name Module Code Credit Value
Contract Law LC13820 20
Criminal Law LC10520 20
Tort LC11120 20

Core

Module Name Module Code Credit Value

Options

Module Name Module Code Credit Value
Commercial Law LC26220 20
Company Law LC27220 20
Criminal Justice and the Penal System LC26320 20
Environmental Law LC27720 20
European Law LC20720 20
Family and Child Law LC26420 20
Human Rights LC25220 20
Intellectual Property Law LC28620 20
International Law LC26920 20
Labour Law LC26820 20
Medicine Ethics and the Law LC26720 20
Principles of Evidence LC26520 20
Public Law LC20620 20
Contemporary Issues in Criminology LC24220 20
Crime & Punishment in Historical Perspective LC23020 20
Crime and the Media LC24320 20
Criminal Justice Placement LC22520 20
Critical Perspectives on Imprisonment LC22020 20
Introduction to Criminology LC22220 20
Police, Policing and Society LC21020 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC28120 20
Psychology and Crime LC24020 20
Psychopathology LC29220 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC29120 20
Youth Crime and Justice LC26120 20
Drugs and Crime LC28220 20
Equity and Trusts LC24920 20
Land Law LC24820 20

Core

Module Name Module Code Credit Value

Options

Module Name Module Code Credit Value
Commercial Law LC36220 20
Company Law LC37220 20
Criminal Justice and the Penal System LC36320 20
Drugs and Crime LC38220 20
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Environmental Law LC37720 20
Equity and Trusts LC34920 20
Family and Child Law LC36420 20
Human Rights LC35220 20
Intellectual Property Law LC38620 20
International Law LC36920 20
Labour Law LC36820 20
Land Law LC34820 20
Law and Criminology Dissertation LC39020 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Principles of Evidence LC36520 20
Contemporary Issues in Criminology LC34220 20
Crime and Punishment in Historical Perspective LC33020 20
Crime and the Media LC34320 20
Criminal Justice Placement LC32520 20
Criminal Law LC30520 20
Critical Perspectives on Imprisonment LC32020 20
Critical and Radical Criminology LC37120 20
Empirically Based Criminology Dissertation LC30140 40
Introduction to Criminology LC32220 20
Police, Policing and Society LC31020 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC38120 20
Psychology and Crime LC34020 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC39120 20
Victimology LC30820 20
Youth Crime and Justice LC36120 20
Business Law and Practice and Solicitors Accounts LC31420 20
Criminal Law and Practice LC31620 20
Dispute Resolution in Contract and Tort LC31520 20
Principles of Professional Conduct, Public & Administrative Law, Legal System of England & Wales & L LC31320 20
Property Law and Practice LC31820 20
Trusts, Wills and the Administration of Trusts and Estates LC31720 20

* Also available partially or entirely through the medium of Welsh

Careers

Mae ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu eich hyder i ymdrin â’r gyfraith yn ddwyieithog, gan fagu sgiliau trawsieithu, dadansoddi, a chyfosdiad a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer y gweithle ac yn baratoad da ar gyfer eich gyrfa.

Mae graddedigion Adran y Gyfraith a Throseddeg ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog, e.e:

• Addysg;

• Y Cyfryngau;

• Gwaith cymdeithasol;

• Y Gyfraith;

• Cyfieithu.

Mae graddedigion yr adrannau hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel:

• Cyhoeddi llyfrau;

• Swyddi yn y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu;

• Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn y Gyfraith / Cymraeg Proffesiynol yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy i chi, sy’n bwysig iawn i gyflogwyr. 

Mae’r rhain yn cynnwys:

• ymchwilio a dadansoddi data;

• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon;

• gweithio’n annibynnol;

• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn;

• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig;

• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth;

• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb;

• sgiliau technoleg gwybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio?

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Course Content

Mae blwyddyn gyntaf ein cyllun gradd yn y Gyfraith yn rhoi sylfaen ichi ar gyfer astudio’r gyfraith, gyda ffocws ar y sgiliau syflaenol sydd eu hangen i ddeall deunyddiau cyfreithiol a’r system gyfreithiol, a hefyd egwyddorion craidd y pynciau cyfreithiol craidd, gan gynnwys cyfraith trosedd ac anghydfodau sifil mewn contractau a chamwedd.

Ar yr ochr Cymraeg Proffesiynol, byddwch chi'n dilyn y modiwl Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol. Fel y mae'r enw yn ei awgrymu, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i'r maes. Byddwch chi'n dysgu rhychwant o sgiliau megis cyfieithu ar y pryd, sgiliau gweinyddol, siarad cyhoeddus, golygu a marchnata. Byddwch chi'n cael eich dysgu gan ddarlithwyr yr Adran a gan gyflogwyr sydd yn gweithio gyda'r Gymraeg. Bydd cyfle ichi weithio fel tîm ac i ddatblygu eich sgiliau marchnata wrth drefnu'r Noson Llên a Chân. Cewch chi ddysgu mwy am y nosweithiau hynod lwyddiannus hyn ar ein blog. Byddwch chi'n cael gweithredu ar fwrdd golygyddol Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol yr adran. Chi fydd yn comisiynu ac yn golygu'r gwaith.

Mae’r ail a’r drydedd flwyddyn yn adeiladau ar yr egwyddorion craidd hyn, ond hefyd yn caniatáu ichi archwilio meysydd eraill o’r gyfraith. Gallwch hefyd deilwra eich dewis o fodiwlau dewisol yn unol â’ch diddordebau a’ch dyheadau o ran eich gyrfa.

Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn byddwch chi'n dilyn pedwar modiwl Cymraeg Proffesiynol:

Y Gymraeg yn y Gweithle - Modiwl profiad gwaith yw hwn. Byddwch chi'n cwblhau cyfnod o brofiad gwaith mewn sefydliad lle defnyddir y Gymraeg ar lefel broffesiynol. Mae dewis helaeth o leoliadau gennym gan gynnwys nifer o sefydliadau cenedlaethol felly bydd cyfle ichi gael profiad uniongyrchol o yrfa sydd o ddiddordeb i chi. Byddwch chi'n llunio portffolio o dasgau sy'n ymwneud â'r gweithle.

Trosi ac Addasu - Modiwl cyfieithu yw'r modiwl hwn. Byddwch chi'n dysgu sgiliau cyfieithu ymarferol yn ogystal â dysgu am yr hanes a'r theorïau sydd wrth wraidd y gwaith. Bydd cyfle ichi ymarfer eich sgiliau cyfieithu o un iaith i iaith arall ac i addasu o un cyfrwng i gyfrwng arall drwy drosi darn o ryddiaith yn sgript ffilm, rhaglen deledu neu ddrama.

Bro a Bywyd - Modiwl sy’n trafod twristiaeth a threftadaeth lenyddol yw'r modiwl hwn. Byddwch chi'n dilyn darlithoedd ac yn mynd ar deithiau maes i lefydd o arwyddocâd diwylliannol. Byddwch chi'n llunio prosiect a fydd yn hybu diddordeb y cyhoedd mewn elfen o'r diwylliant Cymraeg, e.e. llyfryn, podcast, ffilm fer neu ddeunydd ar gyfer gwefan. Dyma enghraifft o un o brosiectau ein cyn-fyfyrwyr: Lluniodd un o'n cyn-fyfyrwyr, Eiri Siôn, ap Mentro Meifod a gallwch ei lawrlwytho yma.

Prosiect Hir - Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle ichi weithio ar brosiect ymchwil gwreiddiol ym maes Cymraeg Proffesiynol. Dan gyfarwyddyd aelod o staff, byddwch chi'n llunio darn o waith safonol y gellir ei gyhoeddi. 

Typical Entry Requirements

UCAS Tariff 128 - 104

A Levels ABB-BCC to include B in Welsh 1st Language

GCSE requirements (minimum grade C/4):
English or Welsh

BTEC National Diploma:
DDM-DMM, plus B in A level Welsh 1st Language

International Baccalaureate:
30-28, plus B in A level Welsh 1st Language

European Baccalaureate:
75%-65% overall, plus B in A level Welsh 1st Language

English Language Requirements:
See our Undergraduate English Language Requirements for this course. Pre-sessional English Programmes are also available for students who do not meet our English Language Requirements.

Country Specific Entry Requirements:
International students whose qualification is not listed on this page, can check our Country Specific Entry Requirements for further information.

The University welcomes undergraduate applications from students studying the Access to Higher Education Diploma or T-level qualifications, provided that relevant subject content and learning outcomes are met. We are not able to accept Access to Higher Education Diplomas or T-levels as a general qualification for every undergraduate degree course.
Our inclusive admissions policy values breadth as well as depth of study. Applicants are selected on their own individual merits and offers can vary. If you would like to check the eligibility of your qualifications before submitting an application, please contact the Undergraduate Admissions Office for advice and guidance.

Back to the top