We use cookies on our website. To learn more about the cookies we use, please see our cookie policy. You can manage cookies via your browser settings. By continuing to browse the site you are agreeing to our use of cookies.
Accept and Close.
Mae Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn un o’r adrannau hynaf a mwyaf profiadol o’i bath yn y Deyrnas Unedig. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth yn un o’r lleoliadau prydferthaf yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd. Mae hi mewn lle unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sydd o'i chwmpas, ac yn cynnig amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi. Bydd y radd hon yn rhoi ichi'r sgiliau, y gallu a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol wrth geisio datrys rhai o’r problemau mawr sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw.
Student Satisfaction and Employability Results
92% overall student satisfaction for the Department of Geography and Earth Sciences (NSS 2020).
97% of our graduates were in work or further study within 6 months, 4% more than Physical Science graduates nationally, (HESA 2018*)
Overview
Pam astudio Daearyddiaeth (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor) ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Cafodd y rhaglen hon ei hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain). Trwy achrediad cydnabyddir rhaglenni sy’n darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, y dulliau a’r nodweddion proffesiynol daearyddol sy’n ddisgwyliedig gan raddedigion safonol ym maes daearyddiaeth, fel a gofnodwyd yn Natganiad Meincnod Pwnc yr ASA ar gyfer Daearyddiaeth.
Gan ein bod yn gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol, yn cynnwys:
prosesau geomorffoleg afonol
rhewlifeg
biodaearyddiaeth
newid amgylcheddol cwaternaidd
tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon
cynaliadwyedd trefol
datblygu rhanbarthol
daearyddiaeth wleidyddol a diwylliannol
cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill
gwobrau teithio sydd ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400)
cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu
labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol.
Our Staff
Department of Geography and Earth Science: lecturers are all qualified to PhD level or working towards a PhD.
Modules
Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.
* Also available partially or entirely through the medium of Welsh
Course Details
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, fe’ch cyflwynir i:
gysyniadau allweddol mewn astudiaethau daearyddol
problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
newid hinsawdd
prosesau’r tirwedd
datblygiad economaidd
globaleiddio.
Yn eich ail flwyddyn byddwch yn datblygu ymhellach yn y meysydd canlynol:
gwaith maes
sgiliau labordy ac ymchwilio ar gyfrifiadur wrth baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
dadansoddi setiau data meintiol
cynhyrchu mapiau a graffiau eraill i gynrychioli data daearyddol
cymryd rhan mewn taith faes breswyl yn y DU neu dramor.
Cewch hefyd astudio modiwlau dewisol ar gyfer arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.
Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio mewn un o'n prifysgolion dramor.
Yn eich pedwaredd flwyddyn:
byddwch yn gwneud prosiect ymchwil annibynnol fydd yn golygu casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
bydd gennych eich cynghorydd personol i’ch arwain
bydd modiwlau dewisol amrywiol yn cynnwys rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, newid hinsawdd y gorffennol, trefoli, a newid yng nghefn gwlad, yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch diddordebau chi.
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Caiff ein cyrsiau eu dysgu trwy gyfrwng darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol mewn labordai neu ar gyfrifiaduron, dosbarthiadau tiwtorial i grwpiau bychain, cyrsiau maes a goruchwylio gwaith prosiect unigolion.
Sut bydda i'n cael fy asesu?
Byddwn yn asesu ein myfyrwyr trwy ystod amrywiol o ddulliau. Caiff ambell fodiwl ei asesu’n rhannol drwy arholiadau traddodiadol, ond bydd gan eraill elfennau o waith cwrs. Mae gennym hefyd fodiwlau all ofyn i’r myfyrwyr lunio adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau llafar, cynllunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar lein. Bydd rhai modiwlau, sef y tiwtorialau a’r cyrsiau maes yn benodol, yn cael eu hasesu’n llwyr trwy waith cwrs.
Employability
Beth gallaf ei wneud â gradd mewn Daearyddiaeth?
Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.
Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser.
Ymhlith y setiau sgiliau y mae:
gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn
y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
sgiliau rheoli amser a threfnu
sgiliau cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar
hunangymhelliant a hunanddibyniaeth.
Cyfleoedd Rhyngwladol
Mae teithio’n annibynnol yn cael ei gydnabod fel elfen allweddol o ddatblygiad myfyrwyr,fel sy'n wir am brofiad gwaith. I gefnogi hynny, rydym yn cynnig bwrsariaethau i helpu israddedigion i deithio. Ymhlith y lleoliadau y mae myfyrwyr wedi ymweld â nhw'n ddiweddar maeUganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna a’r Unol Daleithiau.
Mae’r Adran hefyd wedi sefydlu Rhaglenni Cyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi’r cyfle unigryw i fyfyrwyr astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd o ran yr hinsawdd. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall y myfyrwyr gwblhau ail flwyddyn eu hastudiaethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi goruchwylio lleoliadau ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.
Learning & Teaching
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, fe’ch cyflwynir i:
gysyniadau allweddol mewn astudiaethau daearyddol
problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
newid hinsawdd
prosesau’r tirwedd
datblygiad economaidd
globaleiddio.
Yn eich ail flwyddyn byddwch yn datblygu ymhellach yn y meysydd canlynol:
eich maes