PGCE

Biology with Balanced Science

Key Facts

Course Code 3DGQ
  • Qualification

    PGCE

  • Typical Course Length

    1 Year

Apply Now

Mae’r cwrs Bioleg yn anelu at alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ymarferwyr egnïol, creadigol, a brwdfrydig er mwyn datblygu sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr o Fioleg a’i ddefnydd. Byddwch yn hyfforddi i addysgu pobl ifanc i ddod yn bobl greadigol, uchelgeisiol, egwyddorol a hyderus wrth ddarganfod mwy am y gymdeithas a’r byd.

Key Facts

Anghenion mynediad

• Gradd sy’n cynnwys o leiaf 50% o bwnc perthynol i Fioleg. Rydym yn ystyried graddau mewn pynciau perthynol eraill, er enghraifft, Gwyddoniaeth Amgylcheddol. Ni fydd gwybodaeth unrhyw fyfyriwr yn gyflawn, a chadwyd hyn mewn cof wrth gynllunio’r cwrs.

• Er mwyn cefnogi fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llywodraeth Cymru mae’n rhaid bod myfyrwyr wedi cyrraedd safon sy’n gyfatebol i Radd B yn yr arholiadau TGAU mewn unrhyw un o’r pynciau canlynol:

  • Saesneg Iaith
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Cymraeg (Iaith gyntaf)
  • Llenyddiaeth Gymraeg

Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).

Rhaid cael hefyd radd B yn yr arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg- Rhifedd.

Mae’r Brifysgol yn cynnig profion yn y pynciau yma os and oes gennych y cymwysterau angenrheidiol.

• Mae cael profiad o arsylwi mewn ysgol yn fanteisiol.

• Bydd profion llythrennedd a rhifedd yn rhan o’r broses dewis a dethol ar ddiwrnod y cyfweliad.

Llety 

Mae’r brifysgol yn cynnig llety am ddim i ymgeiswyr sydd wedi derbyn lle i astudio ar gwrs TAR cychwyn mis Medi 2019 (yn dderbyniol ar lwyddo'r gofynion mynediad) yn dilyn y proses dewis AGA. Mae’r cynnig am lety am ddim ar gael i fyfyrwyr y cwrs am yr 8 wythnos yn Aberystwyth, pryd bydd myfyrwyr ar gampws ar gyfer y cwrs.

Course Details

Ar y cyd â’ch cyd-fyfyrwyr sy’n dilyn y cwrs cynradd a chyrsiau uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion addysgeg effeithiol, asesu, cynllunio gwersi a chynllunio cwricwlwm. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn dysgu, cyfrannu at seminarau, cyflwyniadau ac yn rhoi ystyriaeth feirniadol i ymchwil. Yn ystod y cyfnodau yn y Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno micro-wersi er mwyn paratoi at elfen ymarferol y cwrs. 

Byddwch yn astudio’r cwricwlwm Bioleg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg a byddwch yn cydweithio gyda myfyrwyr o feysydd pynciol eraill i ddatblygu eich arferion tra’n gweithio ar draws y cwricwlwm. Mae cwrs TAR Bioleg yn ymwneud â dulliau damcaniaethol ac ymarferol o ddysgu Bioleg i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys TGAU sengl a dwbl ac UG/U Bioleg. 

Mae pob myfyriwr yn derbyn hyfforddiant i ddysgu Gwyddoniaeth Gytbwys i ddisgyblion CA3. Bydd lleoliadau'n digwydd mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle bydd gan ysgolion gysylltiad agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. Yn ystod y cyfnod ar leoliad, byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu. Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, cewch brofiad o leoliad byr mewn ysgol gynradd gydag athrawon cynradd sydd â sgiliau arbennig. Byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil gweithredol er mwyn datblygu elfen ar eich ymarfer a chychwyn eich gyrfa fel athro/athrawes sy’n hyddysg mewn ymchwil.

Modules

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Teaching & Learning

Asesiad

Bydd sawl ffurf o asesu myfyrwyr, gan gynnwys traethodau, ysgrifennu myfyriol, cyflwyniadau, cynlluniau gwersi, a phroject ymchwil gweithredol. Nid oes arholiadau ffurfiol. Mae asesiad o’r ymarfer dysgu yn digwydd trwy gydol y tri lleoliad ac yn barhaus.

Themâu traws-gwricwlaidd

Mae pob athro/athrawes yn gyfrifol am addysgu tair thema draws-gwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd, a chymhwysedd digidol yng nghyd-destun eu pwnc eu hunain.