Anghenion mynediad
Gradd sydd o leiaf 50% yn berthnasol i Fathemateg. Rydym yn ystyried graddau mewn pynciau perthynol, er enghraifft, Peirianneg. Ni fydd gwybodaeth unrhyw fyfyriwr yn gyflawn, a chadwyd hyn mewn cof wrth gynllunio’r cwrs.
Er mwyn cefnogi fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Llywodraeth Cymru mae’n rhaid bod myfyrwyr wedi cyrraedd safon sy’n gyfatebol i Radd B yn yr arholiadau TGAU mewn unrhyw un o’r pynciau canlynol:
- Saesneg Iaith
- Llenyddiaeth Saesneg
- Cymraeg (Iaith gyntaf)
- Llenyddiaeth Gymraeg
Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).Rhaid cael hefyd radd B yn yr arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg- Rhifedd.
Mae’r Brifysgol yn cynnig profion yn y pynciau yma os and oes gennych y cymwysterau angenrheidiol.
- Mae cael profiad o arsylwi mewn ysgol yn fanteisiol.
- Bydd profion llythrennedd a rhifedd yn rhan o’r broses dewis a dethol ar ddiwrnod y cyfweliad.
Llety
Mae’r brifysgol yn cynnig llety am ddim i ymgeiswyr sydd wedi derbyn lle i astudio ar gwrs TAR cychwyn mis Medi 2019 (yn dderbyniol ar lwyddo'r gofynion mynediad) yn dilyn y proses dewis AGA. Mae’r cynnig am lety am ddim ar gael i fyfyrwyr y cwrs am yr 8 wythnos yn Aberystwyth, pryd bydd myfyrwyr ar gampws ar gyfer y cwrs.