BA

History / Welsh History

This course is available through Clearing.
Call free phone: +44 (0) 800 121 40 80

Key Facts

Code VV21
  • Typical A-level offer

    BBB with B in any subject

  • Course Length

    3 Years

Further details on entry requirements

Apply Now

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Hanes a Hanes Cymru hwn, byddi’n dewis dysgu mewn adran uchel ei pharch sy’n llwyddo i ddod â’r gorffennol yn fyw. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cael ei chydnabod yn un o’r prif adrannau Hanes ym Mhrydain. Bwriad y radd hon yw datblygu dy ddiddordebau hanesyddol, gan ehangu a dyfnhau dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o’r pwnc gan astudio elfennau penodol o hanes Cymru. Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i fod yn hyblyg iawn, felly mae modd teilwra’r radd Hanes a Hanes Cymru i dy ddiddordebau penodol dy hun. Fel rhan o dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n meithrin sgiliau gwerthfawr gan gynnwys y gallu i brosesu llawer iawn o wybodaeth a chyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac ar bapur.

Top 10 in the UK for student satisfaction in the subject area of History (NSS 2016)

Department of History and Welsh: 95% student satisfaction (NSS 2016)

92% of undergraduates from the Department of History and Welsh History who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

  • Overview
  • Modules
  • Employability
  • Teaching & Learning
  • Student Views

Overview

Pam Astudio Hanes a Hanes Cymru yn Aberystwyth?

  • Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. 
  • Wrth astudio’r radd hon byddi’n astudio modiwlau hanes Cymru ac hefyd yn dewis o blith yr ystod eang o fodiwlau eraill (Hanes) a gynigir gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru. Byddi’n edrych pa effaith mae digwyddiadau’r gorffennol wedi eu cael ar y presennol ac yn meithrin sgiliau dadansoddi, dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd.
  • Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydyn ni’n eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd Hanes orau posib. Mae’r cynllun gradd mewn Hanes yn un cyffrous a diddorol.
  • Mae diddordebau ein darlithwyr yn amrywio o’r cynfyd i’r byd modern, felly gallwn gynnig modiwlau hanes diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a gwleidyddiol amrywiol o bob cyfnod i ti. Mae’r darlithwyr i gyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar hefyd. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd.
  • Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu mewn grwpiau bach, a bron yn unigryw am ddarparu sesiynau tiwtorial un-i-un. Bydd hyn yn fantais mawr iti fel myfyriwr.
  • Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Hanes yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adran. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti astudio dy Bwnc Arbennig ac ysgrifennu dy draethawd estynedig yn y drydedd flwyddyn.
  • Mae cymuned glos a chyfeillgar yn yr Adran, sydd wedi ei lleoli yng nghanol campws y Brifysgol. Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gyfeillgar ac anffurfiol sydd rhwng y staff a’r myfyrwyr. Mae yma Gymdeithas Hanes fywiog sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o gysylltiadau â phrifysgolion tramor, sy’n golygu y gallet fanteisio ar y cyfle i dreulio amser dramor yn mwynhau diwylliant hanesyddol gwahanol.
Our Staff

Department of History and Welsh History lecturers are all qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Modules

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Employability

Beth allaf i ei wneud gyda gradd mewn BA Gwleidyddiaeth a Hanes Modern?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol:

  • Addysg
  • Y Gyfraith
  • Archifwyr
  • Cyhoeddwyr
  • Gwleidyddion
  • Gweision Sifil
  • Y Cyfryngau
  • Y Lluoedd Arfog
  • Entrepreneuriaid

Fel adran, rydym ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:

  • Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Dr Joanne Cayford, BBC
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel
  • Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!

Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr:

‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’

Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a’r rhaglen Astudio Dramor

  • Mae cael amrywiaeth o brofiadau’n bwysig ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor yn cynnig cyfleoedd rhagorol. Mae Hanes a Hanes Cymru wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid Erasmus gyda phrifysgolion yn yr Almaen, Prâg, Budapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda nifer o golegau yn America hefyd.  https://www.aber.ac.uk/en/international/study-abroad/

Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:

  • Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.

Teaching & Learning

Beth fyddaf i’n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe allech ddarganfod:

  • Cysyniadau newydd a sgiliau hanesyddol
  • Dulliau a chyfnodau newydd
  • Hanes Cymru o 1250-1800
  • Y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain
  • Moderniaeth a chreu Asia
  • Gweithiau hanesyddol diweddar cyffrous
  • Ein dewis o fodiwlau eraill sy’n adlewyrchu ystod gronolegol a thematig eang

Yn ystod eich ail flwyddyn gallech archwilio:

  • Dull hanesyddol, sy’n edrych ar y ffordd mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser
  • Hanes Ewrop
  • Yr Almaen a Natsïaeth
  • Yr Ymerodraeth Brydeinig: Prydain ac Iwerddon, 1850-1914
  • Golwg ar grefft yr hanesydd
  • Ein gwahanol bynciau a chyfnodau o’n rhestr helaeth o fodiwlau

Yn ystod eich trydedd flwyddyn gallech astudio:

  • Pwnc arbennig sy’n eich galluogi i gynnal ymchwil dwys, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol sydd oll yn eich galluogi i ddefnyddio sgiliau ymchwil beirniadol hanesydd ymarferol
  • Rhywedd mewn Hanes
  • Cymdeithas Prydain a’r chwyldro Ffrengig
  • Hanes, Crefydd a Dewiniaeth
  • Stalin a Rwsia

Sut fyddaf i’n cael fy addysgu a fy asesu?

Bydd y gwahanol ddulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir gennym ni yn yr adran yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau mewn rhoi cyflwyniad i grŵp bach (seminarau ac asesu llafar), ysgrifennu ffurfiol (traethodau), ymchwil a datblygu syniadau ar ffurf ysgrifenedig (traethawd hir), a gweithio fel rhan o dîm (seminarau a chynadleddau myfyrwyr, fel y Colocwiwm Canoloesol blynyddol yng Ngregynog). Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnal tiwtorialau academaidd unigol i bob myfyriwr, sy’n anarferol y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt, a cheir system gefnogol o diwtoriaid personol. Drwy’r cyswllt un i un hwn, byddwch yn gallu trafod gyrfaoedd posibl, neu efallai astudiaethau pellach, gyda mentoriaid academaidd.

Student Views

Des i yma ar ddiwrnod agored a syrthiais mewn cariad â’r lle a’i awyrgylch, felly penderfynais ddod yma i astudio. Cefais ysgoloriaeth i ddod yma, a oedd hefyd yn help mawr.
Roedd yn hawdd i mi setlo i mewn yma. Gan ei bod hi’n dre mor fach mae popeth yn agos at ei gilydd ac mae’n llawn myfyrwyr. Mae yma awyrgylch cartrefol, a dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i chi wneud ffrindiau.
Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn wych. Mae’n hawdd cyfathrebu â staff yr adran ac maent wastad yna i chi os oes gennych unrhyw broblemau.
Gan fy mod yn astudio Hanes Cymru mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddefnyddiol iawn - mae pob un llyfr ar gael gan ei bod yn llyfrgell hawlfraint.
Dwi’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae yna ddigon o gymdeithasau yma, mae’n wych. Wrth fod yn aelod o’r cymdeithasau rydych yn cymysgu â myfyrwyr eraill.
Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf am Aber ydy’r bywyd cymdeithasol, awyrgylch cynnes y dre, a’r ffaith fod popeth yn agos at ei gilydd. Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yw’r allt!
Byddwn yn sicr yn argymell i eraill astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r profiad gorau gewch chi! Ceri Phillips

Roeddwn yn hapus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae pob ceiniog o gymorth i mi wrth i mi ddechrau ar fy nghradd yn Aberystwyth. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac wedi dilyn fy holl bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, dewis naturiol oedd gwneud hynny hefyd yn y brifysgol. Enw da’r Adran Hanes a Hanes Cymru a’r gymdeithas Gymraeg yma yn Aberystwyth wnaeth fy nenu yma. Heledd Eleri Evans

Typical Entry Requirements

A Levels BBB with B in any subject

GCSE requirements (grade C min):
English or Welsh

BTEC National Diploma:
DMM-DDM

International Students

International Baccalaureate:
30-32 points overall

European Baccalaureate:
70-75% overall

Applicants are considered on their individual merits and offers can vary. For further information, please contact ug-admissions@aber.ac.uk

Back to the top