BA

History / Politics

This course is available through Clearing.
Call free phone: +44 (0) 800 121 40 80

Key Facts

Code VLC2
  • Typical A-level offer

    BBB with B in any subject

  • Course Length

    3 Years

Further details on entry requirements

Apply Now

Wrth ddewis astudio’r cwrs anrhydedd cyfun BA Hanes a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n cael y cyfle i astudio mewn dwy adran uchel iawn eu bri sy’n arloesi o ran dysgu ac ymchwil, sef yr Adran Hanes a Hanes Cymru a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae’r cynllun gradd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth yn un cyffrous a diddorol ac yn cyfuno arbenigedd haneswyr a gwyddonwyr gwleidyddol mewn cwrs cyfrannol sy’n rhoi cryn hyblygrwydd i ti wrth ddewis modiwlau.

Top 10 in the UK for student satisfaction in the subject area of History (NSS 2016)

Department of History and Welsh: 95% student satisfaction (NSS 2016)

92% of undergraduates from the Department of History and Welsh History who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

Department of International Politics: 95% student satisfaction (NSS 2016)

92% of undergraduates from the Department of International Politics who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

  • Overview
  • Modules
  • Employability
  • Teaching & Learning

Overview

Pam Astudio Hanes a Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth?

  • Mae’r cynllun gradd Anrhydedd Sengl mewn Gwleidyddiaeth a Hanes yn canolbwyntio ar hanes a gwleidyddiaeth ddiweddar. Mae’n cyfuno arbenigedd haneswyr a gwyddonwyr gwleidyddol mewn cwrs cyfrannol sy’n rhoi cryn hyblygrwydd i ti wrth ddewis modiwlau. 
  • Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio elfen o hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. 
  • Bydd elfen wleidyddol y radd hon yn trafod y syniadau sy’n sail i’n bywydau o ddydd i ddydd, megis cyfiawnder, rhyddid, grym, cymuned, cydraddoldeb a dinasyddiaeth. Bydd gradd mewn Gwleidyddiaeth a Hanes  yn caniatáu i ti roi digwyddiadau diweddar mewn perspectif ac yn rhoi i ti sgiliau dadansoddi dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd.
  • Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. 
  • Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), cafodd yr Adran ei enwi fel yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gorau yng Nghymru a seithfed gorau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil, gyda 69% o gyhoeddiadau a gyflwynwyd o safon sydd gyda’r dosbarthiadau Gorau yn y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol. 
  • Mae’r awyrgylch dysgu cynhyrfus a chosmopolitaidd yma yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn gartref bywiog i drafodaeth wleidyddol gyfoes. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd.
  • Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydym yn eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd orau posib. Mae darlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gyd hefyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd.
  • Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Gwleiyddiaeth a Hanes Modern yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adrannau. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti ysgrifennu dy draethawd estynedig yn dy drydedd flwyddyn.
  • Mae cymdeithasau myfyrwyr bywiog yn y ddwy adran, sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae ganddynt hefyd gysylltiadau â phrifysgolion dethol dramor, a dyma gyfle gwych i ti ehangu dy orwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o dy brofiad prifysgol dramor.
Our Staff

Department of History and Welsh History lecturers are all qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Lecturers in the Department of International Politics are all research active and qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Modules

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Options

* Also available partially or entirely through the medium of Welsh

Options

* Also available partially or entirely through the medium of Welsh

Employability

Beth allaf i ei wneud gyda gradd mewn BA Hanes a Gwleidyddiaeth ?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol:

  • Addysg
  • Y Gyfraith
  • Archifwyr
  • Cyhoeddwyr
  • Gwleidyddion
  • Gweision Sifil
  • Y Cyfryngau
  • Y Lluoedd Arfog
  • Entrepreneuriaid

Fel adran, rydym ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:

  • Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Dr Joanne Cayford, BBC
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel
  • Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!

Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr:

‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’

Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a’r rhaglen Astudio Dramor

  • Mae cael amrywiaeth o brofiadau’n bwysig ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor yn cynnig cyfleoedd rhagorol. Mae Hanes a Hanes Cymru wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid Erasmus gyda phrifysgolion yn yr Almaen, Prâg, Budapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda nifer o golegau yn America hefyd.  https://www.aber.ac.uk/en/international/study-abroad/

Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:

  • Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.

Teaching & Learning

Beth fyddi di’n ei ddysgu?
Mae modiwlau craidd y radd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil sylfaenol yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o faterion hanesyddiaethol, a materion a syniadaethau craidd gwleidyddiaeth. 

  • Wrth ddilyn y radd hon byddi’n cael dewis blith o amrywiaeth eang iawn o safbwynt y themau a’r cyfnodau hanesyddol o 1750 hyd y cyfnod presennol, a fydd yn cynnwys cyfleoedd i astudio agweddau ar hanes gwleidyddol, diwylliannol neu econmaidd tra bo’r opsiynau gwleidyddol yn cynnwys modiwlau a fydd yn caniatáu i ti ymgymryd â phynciau sydd o ddiddordeb penodol i ti.
  • Bwriad modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw rhoi sail eang o wybodaeth wrth i ti baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd y modiwlau hyn yn dy gyflwyno i gysyniadau a dadleuon allweddol yn ogystal â phynciau pwysicaf gwleidyddiaeth a hanes.
  • Yn yr ail a’r drydded flwyddyn, cei gyfle i arbenigo yn y meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf i ti. Bydd disgwyl iti gwblhau’r modiwlau craidd ar gyfer y cynllun a thraethawd hir. Byddi fel arall yn adeiladu dy gwrs dy hun drwy ddewis o fodiwlau fel ‘Globaleiddio, Gwrthiant a Newid yng Ngwleidyddiaeth y Byd’ neu ‘ Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol’, ‘Cymdeithas Cymru Fodern’ a ‘Cymru ers 1945’.

Sut byddi’n cael dy ddysgu?

  • Ar y cwrs hwn byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr.
  • Mae’r ddwy Adran wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn gymryd rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau fydd yn digwydd. Mae’r nifer fach o fyfyrwyr fydd ym mhob grŵp seminar yn golygu y byddi’n derbyn llawer o sylw gan y darlithwyr.
  • Mae’r tiwtorialau personol yn rhoi cyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan dy ddarlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, a bydd seminarau yn gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno.

Tiwtor Personol

  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i ti am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Typical Entry Requirements

A Levels BBB with B in any subject

GCSE requirements (grade C min):
English or Welsh

BTEC National Diploma:
DMM-DDM

International Students

International Baccalaureate:
30-32 points overall

European Baccalaureate:
70-75% overall

Applicants are considered on their individual merits and offers can vary. For further information, please contact ug-admissions@aber.ac.uk

Back to the top