BA The Literature and History of Wales

Myfyrwyr BA Llenyddiaeth a Hanes Cymru mewn darlith

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Llenyddiaeth a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n dewis astudio cwrs unigryw ac arloesol a ddysgir ar y cyd gan ddwy adran uchel eu bri sef Adran y Gymraeg a’r Adran Hanes a Hanes Cymru. Wrth ddilyn y cwrs hwn byddi’n cael dy ddysgu gan staff sydd yn arloesi yn eu meysydd.

Department of Welsh and Celtic Studies: 100% student satisfaction (NSS 2016)

100% of undergraduates from the Department of Welsh and Celtic Studies who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

Department of History and Welsh: 95% student satisfaction (NSS 2016)

92% of undergraduates from the Department of History and Welsh History who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

Overview

Mae’r cynllun gradd Llenyddiaeth a Hanes Cymru yn gwrs Anrhydedd Sengl amlddisgyblaethol unigryw ac arloesol. Mae gan Gymru draddodiad llenyddol cyfoethog sy’n ymestyn yn ôl i ganol y mileniwm cyntaf, ac mae llenyddiaeth wedi chwarae rhan gyson a chanolog yn niwylliant Cymru. O astudio’r cwrs hwn byddi’n astudio datblygiad llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destun hanesyddol ac yn edrych ar y berthynas rhwng llenyddiaeth a hanes o sawl safbwynt gwahanol. Cei gyfle i astudio testunau penodol yn fanwl a chyfle hefyd i werthfawrogi’r darlun hanesyddol ehangach. Byddi’n ymchwilio i’r ffyrdd cyffrous y gellir defnyddio’r testunau llenyddol eu hunain er mwyn deall y gorffennol.

Rhennir y gwaith dysgu rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran y Gymraeg, dwy adran a enillodd glod am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu priod feysydd.

Pam Astudio Llenyddiaeth a Hanes Cymru yn Aberystwyth?

O ddewis y cwrs hwn byddi’n treulio hanner dy amser yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, sef yr adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddi’n cael dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. Yr Adran hon yw’r fwyaf o adrannau Cymraeg Cymru. Oherwydd nifer ei staff gall yr Adran gynnig rhychwant eang o fodiwlau a chyrsiau. Mae’r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei cydnabyddu fel canolfan ymchwil gyda safon fyd-eang; yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf (2014), cafodd 90% o ymchwil yr adran ei graddio fel ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yn ogystal â hwn, cafodd hanner o’r holl ymchwil o’r adran cael ei dosbarthu yn rhagorol yn rhyngwladol a chwarter gyda’r gorau yn y byd.

Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a dros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydyn ni’n eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd orau posib. Mae darlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gyd hefyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar a gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy dalentau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Ymhlith cryfderau’r Adran y mae ymrwymiad parhaus i ddosbarthiadau tiwtorial i unigolion a datblygu addysgu blaengar mewn darlithoedd a seminarau.

Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Llenyddiaeth a Hanes Cymru yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, ac mae’n Llyfrgell Genedlaethol ni yn un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adrannau. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti ysgrifennu dy draethawd estynedig yn y drydedd flwyddyn.

Mae cymdeithasau myfyrwyr y ddwy adran yn rhai bywiog, sy’n trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb, a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae ganddynt hefyd gysylltiadau â phrifysgolion dethol dramor, a dyma gyfle gwych i ti ehangu dy orwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o dy brofiad prifysgol dramor.

Our Staff

All academic staff in the Department of Welsh and Celtic Studies are research active scholars and experts in their chosen fields of study, including the study of languages and literatures as well as creative writing.

Department of History and Welsh History lecturers are all qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Course Content

Welsh medium modules available

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Year 1 Core (40 Credits) Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf gymryd y modiwlau hyn

Semester 1

Themâu A Ffigurau Llên C.550-1900 CY10110

Cymraeg Ddoe A Heddiw 1 (iaith Gyntaf) CY10300

Seminarau Iaith A Llên (iaith Gyntaf) CY10400

Semester 2

Beirdd A Llenorion O 1900 Hyd Heddiw CY10210

Cymraeg Ddoe A Heddiw 1 (iaith Gyntaf) CY10310

Seminarau Iaith A Llên (iaith Gyntaf) CY10410

Year 1 Options RHAID i bob myfyriwr gymryd modiwl craidd Rhan Un yr Adran (trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg):

Semester 1

Cyflwyno Hanes HA12120

Introduction To History HY12120

Year 1 Options Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf ddewis modiwlau gwerth 20 credyd o blith y canlynol

Semester 1

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar I CY12510

Semester 2

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar Ii CY12610

Year 1 Options Rhaid i bob myfyriwr ail iaith astudio'r modiwlau canlynol

Semester 1

Llenyddiaeth O 1900 Hyd Heddiw CY10610

Cymraeg Ysgrifenedig 1 CY10710

Semester 2

Braslun O Hanes Ein Llên CY10510

Cymraeg Ysgrifenedig 2 CY10810

Year 1 Options Rhaid i bob myfyriwr ail iaith ddewis CY12810 a CY12910

Semester 1

Trafod Y Byd Cyfoes Trwy'r Gymraeg I CY12810

Semester 2

Trafod Y Byd Cyfoes Trwy'r Gymraeg Ii CY12910

Year 1 Options Rhaid i fyfyrwyr Rhan Un gymryd 40 credyd arall yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru:

Semester 1

Concwest, Uno A Hunaniaeth Yng Nghymru 1250-1800 HC11120

Cymru A'r Byd: Cysylltiadau A Dylanwadau 1860 - 2000 HC11520

Stuart England: War, Political Crisis And Social Change 1629-1714 HY11920

Russia Since 1900 HY12020

Nationalism, Totalitarianism And Democratization: Czechoslov HY12220

Soldiers, Saints & Serfs: England, 1042-1154 HY14320

Conquest, Union And Identity In Wales 1250-1800 WH11120

Semester 2

Y Dirwasgiad Mawr: Hanes Cymharol America A Phrydain HA10620

Argyfwng, Gwrthryfel A Ffydd Yn Ewrop C.1000-1540 HA10820

Oes Y Fictoriaid HA13820

Age Of Magna Carta-england And Its Neighbours C1180-c1280 HY12520

Three Queens And Their Subjects HY12720

Britain And The First World War HY13220

Modernity And The Making Of Asia HY15220

From Revolution To World War: Wales 1789-1914 WH11620

Year 2 Options RHAID i fyfyrwyr ASTUDIO modiwl CRAIDD Ail Flwyddyn Hanes a Hanes Cymru yn Semester Un (trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg):

Semester 1

Llunio Hanes HA30120

Making History HY30120

Year 2 Options RHAID i fyfyrwyr yr Ail Flwyddyn astudio un modiwl AROLWG 20 credyd yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn Semester Un:

Semester 1

Concro'r Byd: Tŵf A Chwymp Ymerodraethau Prydain A Ffrainc HA31820

The Challenge To Christendom HY31020

Early Modernity In Europe HY31120

War & Society In History HY31620

Year 2 Options Dylai myfyrwyr yr Ail Flwyddyn ddewis un modiwl SGILIAU 20 credyd yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn Semester Dau:

Semester 2

Gwrando Ar Hanes: Y Mudiad Hawliau Sifil Yn America HA34720

Investigating Georgian And Victorian Landscapes HY32720

History As Myth-making: The 'myth Of The Blitz' HY33420

Germans And Nazism Since 1933: Reading Public Opinion Surveys, Diaries And Memoirs HY33520

Image Wars In Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda HY33720

Journalism And The Writing Of History HY33920

Medieval Chronicles: Historical Writing In The British Isles 540-1300 HY34020

History In Cartoons: Studying Georgian Satirical Prints HY34320

Seals In Their Context In Medieval England And Wales HY34420

Exploring Nineteenth-century Exhibitions HY34620

Year 2 Options NEU Dylai myfyrwyr yr Ail Flwyddyn ddewis un modiwl OPSIYNOL 20 credyd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, naill ai yn Semester Un neu Semester Dau:

Semester 1

Gwrthdaro A Chydfodolaeth: Cymru O’r Normaniaid Hyd Glyndŵr HC32220

Oes Yr Ymerodraeth: Prydain Ac Iwerddon, 1850-1914 HC34320

East & West In The Age Of Crusades, C. 1070 - C. 1290 HY35120

Politics And Society In Twentieth-century Britain HY37620

Science, Religion And Magic HY38620

Germany Since 1945 HY39620

The Atlantic World, 1492-1825 HY39720

Rhyfel Algeria 1952-1964 IE20420

An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914 WH34320

Semester 2

Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850 HC33420

The British Isles And The ‘english Revolution’ HY35720

From Black Death To Great Fire: The British Town 1349-1700 HY36120

War, Famine And Plague: England In The Fourteenth Century HY36720

Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power HY39120

Culture, Society And The Victorians HY39320

The Soviet Union And The World, 1917-1991 HY39520

Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850 WH33420

Civil War And Revolution In Stuart Wales, 1603-1714 WH36220

Available both years Options O leiaf 100 credyd, a hyd at 120 credyd, o blith

Semester 1

Rhyddiaith Y Dadeni CY33620

Llenyddiaeth Glasurol A Phoblogaidd, 1740-1800 CY33920

Y Gynghanedd: Cwrs Trochi CY34520

Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35320

Semester 2

Y Cynfeirdd Diweddar CY33120

Y Chwedl Arthuraidd Cyn 1100 CY33420

Ysgrifennu Creadigol CY34120

Traddodiad Benywaidd? Merched A Barddoniaeth 1400-1800 CY34220

Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35420

Both Semesters

Ysgrifennu Creadigol CY34100

Available both years Electives Mae'r Adan Hanes a Hanes Cymru yn disgwyl i fyfyrwyr ar gynlluniau cyfrwng Cymraeg astudio o leiaf 60 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg (40 credyd i fyfyrwyr anrhydedd is-bwnc). Cofier hefyd fod yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi derbyn ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol astudio 80 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Final Year Options ar gael yn y flwyddyn olaf yn unig

Semester 1

Traethawd Estynedig CY35100

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35600

Semester 2

Traethawd Estynedig CY35120

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35620

Final Year Options Dylai myfyrwyr y Flwyddyn Olaf astudio modiwl(au) CRAIDD gwerth 40 credyd yr Adran Hanes a Hanes Cymru - y TRAETHAWD ESTYNEDIG (HA/HY 30340) dros Semester Un a Semester Dau NEU ddau fodiwl cydofynnol 20 credyd PWNC ARBENNIG (HP/HQ), un yn Semester UN a'r modiwl cyfatebol yn Semester Dau:

Semester 1

Traethawd Estynedig HA30300

Milwyr, Myfyrwyr A Masnachwyr: Teithio A Symudedd Yn Ewrop Ganoloesol (rhan 1) HP34520

Ritual, Kingship And Power In Norman And Angevin England: Methods, Sources & Actors (part 1) HQ33120

Gender In History: The Early Modern Experience (part 1) HQ35220

British Society And The French Revolution, 1789-1795: Initial Reactions (part 1) HQ36420

Romantic Wales, 1780-1847 (part 1) HQ36820

Britain At War 1939-45 (part 1) HQ37520

Stalin And Stalinism (part 1) HQ37920

The Third Reich (part 1): Building The Dictatorship. Regime And Society In Nazi Germany, 1933-1939 HQ38320

The Vietnam War (part 1) HQ38520

Dissertation HY30300

Semester 2

Traethawd Estynedig HA30340

Milwyr, Myfyrwyr A Masnachwyr: Teithio A Symudedd Yn Ewrop Ganoloesol (rhan 2) HP34620

Ritual, Kingship And Power In Norman And Angevin England: Methods, Sources & Actors (part 2) HQ33220

Gender In History: The Early Modern Experience (part 2) HQ35320

British Society And The French Revolution, 1795-1803: The Revolutionary Wars And Napoleon (part 2) HQ36520

Romantic Wales, 1780-1847 (part 2) HQ36920

Britain At War 1939-45 (part 2) HQ37620

Stalin And Stalinism (part 2) HQ38020

The Third Reich (part 2): War And The Holocaust, 1939-1945 HQ38420

The Vietnam War (part 2) HQ38620

Dissertation HY30340

Final Year Options Dylai myfyrwyr y Flwyddyn Olaf astudio 20 credyd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru - naill ai un modiwl AROLWG 20 credyd yn Semester UN:

Semester 1

Concro'r Byd: Tŵf A Chwymp Ymerodraethau Prydain A Ffrainc HA31820

The Challenge To Christendom HY31020

Early Modernity In Europe HY31120

War & Society In History HY31620

Final Year Options NEU dylai myfyrwyr Blwyddyn Olaf ddewis un modiwl OPSIYNOL 20 credyd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru naill ai yn Semester UN neu Semester Dau:

Semester 1

Gwrthdaro A Chydfodolaeth: Cymru O’r Normaniaid Hyd Glyndŵr HC32220

Oes Yr Ymerodraeth: Prydain Ac Iwerddon, 1850-1914 HC34320

East & West In The Age Of Crusades, C. 1070 - C. 1290 HY35120

Politics And Society In Twentieth-century Britain HY37620

Science, Religion And Magic HY38620

Germany Since 1945 HY39620

The Atlantic World, 1492-1825 HY39720

Rhyfel Algeria 1952-1964 IE20420

An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914 WH34320

Semester 2

Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850 HC33420

The British Isles And The ‘english Revolution’ HY35720

From Black Death To Great Fire: The British Town 1349-1700 HY36120

War, Famine And Plague: England In The Fourteenth Century HY36720

Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power HY39120

Culture, Society And The Victorians HY39320

The Soviet Union And The World, 1917-1991 HY39520

Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850 WH33420

Civil War And Revolution In Stuart Wales, 1603-1714 WH36220

Available both years Options O leiaf 100 credyd, a hyd at 120 credyd, o blith

Semester 1

Rhyddiaith Y Dadeni CY33620

Llenyddiaeth Glasurol A Phoblogaidd, 1740-1800 CY33920

Y Gynghanedd: Cwrs Trochi CY34520

Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35320

Semester 2

Y Cynfeirdd Diweddar CY33120

Y Chwedl Arthuraidd Cyn 1100 CY33420

Ysgrifennu Creadigol CY34120

Traddodiad Benywaidd? Merched A Barddoniaeth 1400-1800 CY34220

Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35420

Both Semesters

Ysgrifennu Creadigol CY34100

Available both years Electives Mae'r Adan Hanes a Hanes Cymru yn disgwyl i fyfyrwyr ar gynlluniau cyfrwng Cymraeg astudio o leiaf 60 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg (40 credyd i fyfyrwyr anrhydedd is-bwnc). Cofier hefyd fod yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi derbyn ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol astudio 80 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Employability

Rhagolygon Gyrfa

Wrth ddilyn y cwrs gradd hwn byddi’n datblygu profiad, gwybodaeth a dealltwriaeth am bynciau o ddwy adran fydd yn golygu y bydd gen ti’r gorau o ddau fyd wrth fynd ati i feddwl am yrfa.

Bydd llawer o raddedigion yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn mynd i weithio mewn meysydd sy’n uniongyrchol berthnasol i’r pwnc, fel archifau, y diwydiant treftadaeth ac amgueddfeydd, tra bydd eraill yn cael gwaith mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol eraill. Mae’r meysydd hynny’n cynnwys newyddiaduraeth, y cyfryngau, hysbysebu, y gyfraith, llywodraeth leol, llyfrgellyddiaeth, rheoli cofnodion, amrywiaeth o swyddi sy’n ymwneud ag ymchwil, ysgrifennu’n broffesiynol, yr heddlu a’r gwasanaeth milwrol, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli adnoddau dynol.

Mae graddedigion Adran y Gymraeg hefyd yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, ac am bobl i gyfieithu ac i weinyddu mewn sawl cylch. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel cyhoeddi llyfrau, y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu.

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Llenyddiaeth a Hanes Cymru yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy i ti, sy’n bwysig iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
• ymchwilio a dadansoddi data
• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
• gweithio’n annibynnol
• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser cyfyng
• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
• sgiliau technoleg gwybodaeth

Blwyddyn Mewn Gwaith

Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i fyfyriwr israddedig gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Unedig neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall dy helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol dy helpu i ystyried dy opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales

Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle iti ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi dy CV ac yn dy wneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Teaching, Learning and Assessment

Beth fyddi di’n ei ddysgu?
Bwriad modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw rhoi sail eang o wybodaeth wrth i ti baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Mae rhychwant eang o fodiwlau ar gael iti ddewis o’u plith yn y ddwy adran.
Yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn cei ddewis modiwlau a fydd yn datblygu’r egwyddorion a ddysgwyd gen ti yn y flwyddyn gyntaf. Yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru cei ddewis o fodiwlau sy’n cynnwys ‘Cymru a’r Tuduriaid 1530-1603’, ‘Cymdeithas a Diwylliant Cymru 1660-1800’ a ‘Hanes Cenedlaetholdeb yn Ynysoedd Prydain’. Mae enghreifftiau o’r dewis a gynigir gan Adran y Gymraeg yn cynnwys ‘Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif’, ‘Rhyddiaith a Drama 1900-1990’ a ‘Beirniadu Llenyddiaeth’.

Fel myfyriwr Anrhydedd Sengl cei gymryd Pynciau Hanes Arbennig, ac ysgrifennu traethawd hir y flwyddyn olaf yn y naill adran neu’r llall, yn dibynnu ar y pwnc y byddi’n ei ddewis a dy ddiddordebau penodol.

Sut y byddi’n cael dy ddysgu?
Ar y cwrs hwn cei dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly’n ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr.

Mae’r ddwy Adran wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn gymryd rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau fydd yn digwydd. Gan mai nifer fach o fyfyrwyr a fydd ym mhob grŵp seminar fe fyddai’n cael llawer o sylw gan y darlithwyr.
Mae’r tiwtorialau personol yn gyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan y darlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, tra bydd seminarau yn gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno.

Tiwtor Personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti dros gyfnod y cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Back to the top

Entry Requirements

A Levels BBB with B in any subject

GCSE requirements (grade C min):
English or Welsh

BTEC National Diploma:
DMM-DDM

International Students

International Baccalaureate:
30-32 points overall

European Baccalaureate:
70-75% overall

Key Information Set

Key Facts

UCAS Code: Q550

Typical A-level offer
BBB with B in any subject

Further details on entry requirements

Course Length: 3 Years

Related Courses: