BA

History

Key Facts

Code V101
  • Typical A-level offer

    BBB with B in any subject

  • Course Length

    3 Years

Further details on entry requirements

Apply Now

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Hanes hwn, byddi’n dewis dysgu mewn adran uchel ei pharch sy’n llwyddo i ddod â’r gorffennol yn fyw. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cael ei chydnabod yn un o’r prif adrannau Hanes ym Mhrydain. Bwriad y radd hon yw datblygu dy ddiddordebau hanesyddol, gan ehangu a dyfnhau dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o’r pwnc. Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i fod yn hyblyg iawn, fel bod modd teilwra’r radd hanes i dy ddiddordebau penodol dy hun. Fel rhan o dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n meithrin sgiliau gwerthfawr gan gynnwys y gallu i brosesu llawer iawn o wybodaeth a chyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac ar bapur

Top 10 in the UK for student satisfaction in the subject area of History (NSS 2016)
97% student satisfaction on our History degree scheme (NSS 2016)

Department of History and Welsh: 95% student satisfaction (NSS 2016)

92% of undergraduates from the Department of History and Welsh History who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

  • Overview
  • Modules
  • Employability
  • Teaching & Learning
  • Student Views

Overview

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd gradd mewn Hanes yn dy alluogi i roi’r gorffennol mewn perspectif gan meithrin sgiliau dadansoddol dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd.

Pam astudio Hanes yn Aberystwyth? 

Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydyn ni’n eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd Hanes orau posib. Mae’r cynllun gradd mewn Hanes yn un cyffrous a diddorol.

Mae diddordebau ein darlithwyr yn amrywio o’r cynfyd i’r byd modern, felly gallwn gynnig modiwlau hanes diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a gwleidyddiol amrywiol o bob cyfnod i ti. Mae’r darlithwyr i gyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar hefyd. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd.

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu mewn grwpiau bach, a bron yn unigryw am ddarparu sesiynau tiwtorial un-i-un. Bydd hyn yn fantais mawr iti fel myfyriwr.

Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Hanes yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adran. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti astudio dy Bwnc Arbennig ac ysgrifennu dy draethawd estynedig yn y drydedd flwyddyn.

Mae cymuned glos a chyfeillgar yn yr Adran, sydd wedi ei lleoli yng nghanol campws y Brifysgol. Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gyfeillgar ac anffurfiol sydd rhwng y staff a’r myfyrwyr. Mae yma Gymdeithas Hanes fywiog sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o gysylltiadau â phrifysgolion tramor, sy’n golygu y gallet fanteisio ar y cyfle i dreulio amser dramor yn mwynhau diwylliant hanesyddol gwahanol.

Our Staff

Department of History and Welsh History lecturers are all qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Modules

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Making History
Early Modernity In Europe
The Challenge To Christendom
War & Society In History
Exploring Nineteenth-century Exhibitions
Germans And Nazism Since 1933: Reading Public Opinion Surveys, Diaries And Memoirs
History As Myth-making: The 'myth Of The Blitz'
History In Cartoons: Studying Georgian Satirical Prints
Image Wars In Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda
Investigating Georgian And Victorian Landscapes
Journalism And The Writing Of History
Medieval Chronicles: Historical Writing In The British Isles 540-1300
Seals In Their Context In Medieval England And Wales
An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914
East & West In The Age Of Crusades, C. 1070 - C. 1290
Germany Since 1945
Politics And Society In Twentieth-century Britain
Science, Religion And Magic
The Atlantic World, 1492-1825
Civil War And Revolution In Stuart Wales, 1603-1714
Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850
Culture, Society And The Victorians
Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power
From Black Death To Great Fire: The British Town 1349-1700
The British Isles And The ‘english Revolution’
The Soviet Union And The World, 1917-1991
Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850
War, Famine And Plague: England In The Fourteenth Century

Modules delivered partially or entirely through the medium of Welsh

Llunio Hanes
Concro'r Byd: Tŵf A Chwymp Ymerodraethau Prydain A Ffrainc
Gwrando Ar Hanes: Y Mudiad Hawliau Sifil Yn America
Gwrthdaro A Chydfodolaeth: Cymru O’r Normaniaid Hyd Glyndŵr
Oes Yr Ymerodraeth: Prydain Ac Iwerddon, 1850-1914
Rhyfel Algeria 1952-1964

Dissertation
Early Modernity In Europe
Making History
War & Society In History
Britain At War 1939-45 (part 1)
British Society And The French Revolution, 1789-1795: Initial Reactions (part 1)
Gender In History: The Early Modern Experience (part 1)
Ritual, Kingship And Power In Norman And Angevin England: Methods, Sources & Actors (part 1)
Romantic Wales, 1780-1847 (part 1)
Stalin And Stalinism (part 1)
The Third Reich (part 1): Building The Dictatorship. Regime And Society In Nazi Germany, 1933-1939
The Vietnam War (part 1)
Britain At War 1939-45 (part 2)
British Society And The French Revolution, 1795-1803: The Revolutionary Wars And Napoleon (part 2)
Gender In History: The Early Modern Experience (part 2)
Ritual, Kingship And Power In Norman And Angevin England: Methods, Sources & Actors (part 2)
Romantic Wales, 1780-1847 (part 2)
Stalin And Stalinism (part 2)
The Third Reich (part 2): War And The Holocaust, 1939-1945
The Vietnam War (part 2)
An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914
East & West In The Age Of Crusades, C. 1070 - C. 1290
Germany Since 1945
Politics And Society In Twentieth-century Britain
Science, Religion And Magic
The Atlantic World, 1492-1825
Civil War And Revolution In Stuart Wales, 1603-1714
Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850
Culture, Society And The Victorians
Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power
From Black Death To Great Fire: The British Town 1349-1700
The British Isles And The ‘english Revolution’
The Soviet Union And The World, 1917-1991
Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850
War, Famine And Plague: England In The Fourteenth Century

Modules delivered partially or entirely through the medium of Welsh

Traethawd Estynedig
Concro'r Byd: Tŵf A Chwymp Ymerodraethau Prydain A Ffrainc
Milwyr, Myfyrwyr A Masnachwyr: Teithio A Symudedd Yn Ewrop Ganoloesol (rhan 1)
Milwyr, Myfyrwyr A Masnachwyr: Teithio A Symudedd Yn Ewrop Ganoloesol (rhan 2)
Gwrthdaro A Chydfodolaeth: Cymru O’r Normaniaid Hyd Glyndŵr
Oes Yr Ymerodraeth: Prydain Ac Iwerddon, 1850-1914
Rhyfel Algeria 1952-1964

Employability

Rhagolygon Gyrfa 

Bydd llawer o raddedigion Hanes yn mynd i weithio mewn meysydd sy’n uniongyrchol berthnasol i’r pwnc, fel archifau, y diwydiant treftadaeth ac amgueddfeydd, tra bydd eraill yn cael gwaith mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol eraill. Mae’r meysydd hynny’n cynnwys newyddiaduraeth, y cyfryngau, hysbysebu, y gyfraith, llywodraeth leol, llyfrgellyddiaeth, rheoli cofnodion, amrywiaeth o swyddi cysylltiedig ag ymchwil, ysgrifennu’n broffesiynol, yr heddlu a’r gwasanaeth milwrol, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli adnoddau dynol. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Sgiliau Trosglwyddadwy 

Bydd astudio am radd mewn Hanes yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:

• ymchwilio a dadansoddi data
• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
• gallu gweithio’n annibynnol
• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
• sgiliau technoleg gwybodaeth

Blwyddyn Mewn Gwaith
Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i fyfyriwr israddedig gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Unedig neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall dy helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol dy helpu i ystyried dy opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales
Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle iti ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi dy CV ac yn dy wneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Teaching & Learning

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

Diben blwyddyn gyntaf y cwrs Hanes yw cyflwyno problemau dadansoddi a dehongli hanes. Yn semester cyntaf Rhan 1 rydym yn cynnig modiwlau rhagarweiniol sy’n adlewyrchu amrywiaeth mawr o ran cyfnod a thema. Rydym yn cynnig modiwl rhagarweiniol mewn cysyniadau a sgiliau hanesyddol, sy’n darparu ar gyfer anghenion pob myfyriwr newydd mewn Hanes, ac yn hwyluso’r newid i astudio yn y brifysgol. Mae hyn yn rhoi golwg ehangach i fyfyrwyr ar yr hanes y maent wedi ei astudio eisoes ac mae’n gyflwyniad delfrydol i fyfyrwyr nad ydynt wedi astudio Hanes i’w lefel A. Byddi hefyd yn dewis modiwlau eraill o blith amrywiaeth eang o themau a chyfnodau fel y galli astudio’r meysydd sydd o ddiddordeb i ti. 

Yn ystod dy ail flwyddyn, byddi’n dilyn modiwl sy’n archwilio’r ffordd y mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser. Byddi hefyd yn dewis modiwlau o restr hir sydd wedi eu cynllunio i ehangu dy wybodaeth, rhoi cyfle iti arsylwi crefft yr hanesydd, a chanolbwyntio’n fanylach ar bynciau a chyfnodau amrywiol. 

Yn y drydedd flwyddyn cei ddewis pwnc arbennig a fydd yn caniatáu i ti astudio pwnc hanesyddol penodol mewn dyfnder trwy wneud defnydd helaeth o ffynonellau gwreiddiol, gan ddefnyddio sgiliau ymchwilio beriniadol hanesydd, yn ogystal â dewis modiwlau eraill o restr helaeth.

Sut y byddi’n cael dy ddysgu?

Amcan sylfaenol y maes llafur Hanes yn Aberystwyth yw cyfleu amrywiaeth a chyffro yr agweddau cyfoes tuag at astudio Hanes, a dysgu sgiliau allweddol fel canfod gwybodaeth, dehongli a hunanfynegiant. Cei dy asesu trwy ddulliau amrywiol fel arholiadau traddodiadol, arholiadau agored, traethodau a asesir, prosiectau a chyflwyniadau, a thraethawd estynedig. Bydd hyn yn fodd i ti gyflawni dy addewid a chyrraedd dy ddisgwyliadau dysgu

Mae’r Adran wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn gymeryd rhan gylawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau a fydd yn digwydd. Gan mai nifer fach o fyfyrwyr fydd ym mhob grŵp seminar fe fyddi’n cael llawer o sylw gan y darlithwyr.

Mae’r tiwtorialau personol yn rhoi cyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan y darlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, tra bydd seminarau’n gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i ti am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Student Views

Des i yma ar ddiwrnod agored a syrthiais mewn cariad â’r lle a’i awyrgylch, felly penderfynais ddod yma i astudio. Cefais ysgoloriaeth i ddod yma, a oedd hefyd yn help mawr.
Roedd yn hawdd i mi setlo i mewn yma. Gan ei bod hi’n dre mor fach mae popeth yn agos at ei gilydd ac mae’n llawn myfyrwyr. Mae yma awyrgylch cartrefol, a dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i chi wneud ffrindiau.
Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn wych. Mae’n hawdd cyfathrebu â staff yr adran ac maent wastad yna i chi os oes gennych unrhyw broblemau.
Gan fy mod yn astudio Hanes Cymru mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddefnyddiol iawn - mae pob un llyfr ar gael gan ei bod yn llyfrgell hawlfraint.
Dwi’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae yna ddigon o gymdeithasau yma, mae’n wych. Wrth fod yn aelod o’r cymdeithasau rydych yn cymysgu â myfyrwyr eraill.
Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf am Aber ydy’r bywyd cymdeithasol, awyrgylch cynnes y dre, a’r ffaith fod popeth yn agos at ei gilydd. Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yw’r allt!
Byddwn yn sicr yn argymell i eraill astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r profiad gorau gewch chi! Ceri Phillips

Roeddwn yn hapus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae pob ceiniog o gymorth i mi wrth i mi ddechrau ar fy nghradd yn Aberystwyth. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac wedi dilyn fy holl bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, dewis naturiol oedd gwneud hynny hefyd yn y brifysgol. Enw da’r Adran Hanes a Hanes Cymru a’r gymdeithas Gymraeg yma yn Aberystwyth wnaeth fy nenu yma. Heledd Eleri Evans

Entry Requirements

A Levels BBB with B in any subject

GCSE requirements (grade C min):
English or Welsh

BTEC National Diploma:
DMM-DDM

International Students

International Baccalaureate:
30-32 points overall

European Baccalaureate:
70-75% overall

Back to the top