BA

International Politics

Key Facts

Code L255
  • Typical A-level offer

    BBB with B in any subject

  • Course Length

    3 Years

Further details on entry requirements

Apply Now

Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, ynni a datblygiadau byd sy’n newid yn gyflym. Wrth ddewis astudio’r cwrs gradd Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n dewis astudio yn y ganolfan orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch gyfeillgar. Ceir cyfleoedd yma i ddatgblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfaoedd, ac rydym yn cynnig cynllun lleoliadau yn Nhŷ’r Cyffredin a’r Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â rhaglenni cyfnewid gyda gwledydd Ewropeaidd, Canada ac Awstralia i’n myfyrwyr. Rydym yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr efelychu argyfyngau gwleidyddol ar gyrsiau maes cyffrous, ac mae hyn oll wedi ei leoli mewn amgylchedd bywiog a chosmopolitaidd yng nghalon campws y Brifysgol.

Top 10 in the UK for student satisfaction in the subject area of International Politics (NSS 2016)

Department of International Politics: 95% student satisfaction (NSS 2016)

92% of undergraduates from the Department of International Politics who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

  • Overview
  • Modules
  • Employability
  • Teaching & Learning
  • Student Views

Overview

Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw’r ehanagaf o’r cynlluniau gradd a gynigir gan yr Adran ac mae’n ymwneud â grym a chyfiawnder, gwrthdaro a chydweithio. Mae’r radd yn astudio cyflwr dynoliaeth a’r modd y mae cymdeithasau dynol yn ymwneud â’i gilydd ac yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu.

Pam Astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae’r awyrgylch dysgu cynhyrfus a chosmopolitaidd yma yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn gartref bywiog i drafodaeth wleidyddol gyfoes. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol. Mae’r Adran yn enwog am ei gwaith ymchwil arloesol ac yn cael ei chydnabod yr orau yn y Deyrns Unedig ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), cafodd yr Adran ei enwi fel yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gorau yng Nghymru a seithfed gorau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil, gyda 69% o gyhoeddiadau a gyflwynwyd o safon Gorau yn y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol. 

Mae’r adran yn rhedeg Cynllun Lleoliadau Tŷ’r Cyffredin a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r lleoliadau yma’n darparu profiad gwaith gwerthfawr dros ben fydd yn ychwanegu llawer at CV myfyrwyr yn ogystal â chynnig profiad go iawn o wleidyddiaeth wrth iddo ddigwydd. Caiff myfyrwyr eu gosod gydag Aelod Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan neu gydag Aelod Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf, sydd yn brofiad gwych i unrhyw fyfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae gan yr Adran gysylltiadau hefyd â phrifysgolion dethol yn Ewrop, Awstralia a Chanada, a dyma gyfle gwych i ti ehangu dy orwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o dy brofiad prifysgol dramor.

Ymhlith y cymdeithasau myfyrwyr bywiog sy’n meithrin ymdeimlad cryf o gymuned o fewn yr Adran, mae Cymdeithas Wleidyddiaeth Gymraeg Aberystwyth (CWGA). Cynhelir cyfarfodydd y Gymdeithas ddwywaith neu dair y tymor, gyda’r bwriad o glywed ysgolheigion ac ymarferwyr yn rhannu eu syniadau a’u hymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg, cynnal trafodaethau bywiog ar ystod o bynciau perthnasol, a rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff cyfrwng Cymraeg yr adran a’r brifysgol ac unigolion brwdfrydig lleol i rannu syniadau a chymdeithasu. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yma, cafwyd darlithoedd gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Carwyn Jones AC, Arglwydd Elystan Morgan, y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley, Glyn Davies AC, a’r Arglwydd John Morris, sgyrsiau am yr Ariannin gan Dr Lucy Taylor, ar etholiadau gan yr Athro Roger Scully, ac am brofiadau newyddiadurwr gwleidyddol yng Nghymru gan Betsan Powys. Ac mae Cinio Nadolig CWGA bob amser yn noson werth ei mynychu!

Our Staff

Lecturers in the Department of International Politics are all research active and qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Modules

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Dissertation

Modules delivered partially or entirely through the medium of Welsh

Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig

Employability

Rhagolygon Gyrfaol
Mae profiad Aberystwyth yn cynnig taith o ddarganfod yr hunan yn ogystal â chynnig y sgiliau – yn llafar, ysgrifenedig, dadansoddol a rhyngbersonol – sy’n sail dda i lwyddo mewn marchnad waith hynod gystadleuol. Mae’r gallu i werthuso problemau cymhleth a chyflwyno dadansoddiad beirniadol, mewn adroddiad ysgrifenedig neu mewn cyflwyniad llafar, yn rhan bwysig o’r hyn a olyga gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae graddedigion Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ddilyn eu gyrfaoedd. Mae rhai graddedigion wedi dilyn gyrfa yn y gwasanaeth sifil (yn enwedig y Swyddfa Dramor, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a’r Adran Datblygu Rhyngwladol); sefydliadau rhyngwladol (NATO, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig); mudiadau anllywodraethol (Amnest Rhyngwladol, Oxfam); ac ymchwil gwleidyddol, gyda chwmnïau preifat yn ogystal ag yn San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop. Mae eraill yn dilyn gyrfa yn y lluoedd arfog, y cyfryngau (fel newyddiadurwyr neu gyflwynwyr radio neu deledu), y gyfraith a byd addysg. Dewis poblogaidd arall yw aros o fewn addysg uwch, gyda nifer uchel o raddedigion yn dewis aros i astudio am radd Feistr neu PhD o fewn ysgol uwchraddedig nodedig yr Adran.

Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
• ymchwilio a dadansoddi data
• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
• gallu gweithio’n annibynnol
• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
• sgiliau technoleg gwybodaeth

Blwyddyn Mewn Gwaith
Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i fyfyriwr israddedig gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Unedig neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall dy helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol dy helpu i ystyried dy opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales
Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle iti ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi dy CV ac yn dy wneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Teaching & Learning

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

Bwriad modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw rhoi sail eang o wybodaeth i ti wrth i ti baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd y modiwlau hyn yn dy gyflwyno i gysyniadau a dadleuon allweddol yn ogystal â phynciau pwysicaf gwleidyddiaeth ryngwladol. Byddi’n dilyn y modiwl craidd ‘Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol’. Galli hefyd ddewis o blith nifer o fodiwlau eraill sy’n adlewyrchu amrywiaeth gronolegol a thematig, fel y galli ddewis y pynciau sydd o ddiddordeb penodol iti.

Yn yr ail a’r drydded flwyddyn, cei gyfle i arbenigo yn y meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf i ti. Bydd disgwyl iti gwblhau’r modiwl craidd ar gyfer y cynllun gradd sef ‘Dulliau Ymchwil’ a thraethawd hir (12000 o eiriau), yn ogystal â’r modiwl ‘Damcaniaethau Gwleidyddiaeth Ryngwladol Heddiw’. Fel arall, galli adeiladu dy gwrs dy hun drwy ddewis modiwlau o raglen ddysgu Rhan Dau. Mae’r modiwlau hyn yn adlewyrchu’r ymchwil ddiweddaraf yn y maes, sy’n golygu bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael clywed y syniadau diweddaraf cyn iddynt hyd yn oed gael eu cyhoeddi a’u gwerthu yn y siopau llyfrau!

Sut byddi’n cael dy ddysgu?

Ar y cwrs hwn byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr. Mae rhai modiwlau yn Rhan Dau (yr ail a’r drydedd flwyddyn) yn defnyddio fformat seminarau’n unig, sydd fel rhagflas o astudiaethau Meistr, tra bod eraill yn defnyddio efelychiadau, chwarae rôl, a thechnegau diweddaraf e-ddysgu.

Nid yw addysg o’r safon uchaf yn dechrau a gorffen yn y ddarlithfa neu’r ystafell seminar, ac mae’r Adran yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol sy’n datblygu sgiliau bywyd pwysig ac yn cynnig profiad gwaith perthnasol a sgiliau trosglwyddadwy eraill. Mae’r gweithgareddau hyn i gyd yn rhoi cyfle i ddarganfod diddordebau newydd, profi syniadau newydd, a datgelu doniau cudd. Mae’r cyfan yn rhan o daith sy’n paratoi myfyrwyr Gwleidyddiaeth am heriau’r dyfodol.

Mae Gemau Argyfwng yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd yr Adran, ac fe’u cynhelir ddwywaith y flwyddyn ar gyrsiau preswyl. Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol oedd y Brifysgol gyntaf yn y DU i gysylltu dysgu o fewn y dosbarth â chymhlethdodau gwleidyddiaeth ryngwladol go iawn. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Gemau Argyfwng wedi eu seilio ar yr argyfyngau dyngarol yn y Congo a Darfur, profion niwclear yng Ngogledd Korea, Saudi Arabia a gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, a’r rhyfel rhwng Rwsia a Georgia. Yn ystod y gêm argyfwng, mae’r myfyrwyr yn dysgu llawer am gymhlethdodau gwleidyddiaeth ryngwladol, pethau na ellir eu dysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig y cyfyngiadau a wynebir gan arweinyddion gwleidyddol mewn argyfyngau. I lawer o’n myfyrwyr, y Gemau Argyfwng yw pinacl y cwrs.

Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o arholiadau a thraethodau, ond defnyddir prosiectau, cyflwyniadau ac adolygiadau llyfr i asesu myfyrwyr o bryd i’w gilydd.

Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i ti am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Student Views

Cefais fy nenu gyntaf i’r Adran hon pan ddeuthum i ymweld ar Ddiwrnod Agored. Gwnaeth brwdfrydedd y staff, y dewis eang o fodiwlau oedd ar gael, yn ogystal â’r posibiliad o astudio drwy’r Gymraeg, gryn argraff arnaf. Ers fy mlwyddyn gyntaf, pan oedd fy modiwlau gorfodol yn amrywio’n fawr, o ddatganoli i ryddfrydiaeth i ryfel, diogelwch a gwleidyddiaeth y trydydd byd, rwyf wedi llwyddo i wneud yn fawr o nifer o gyfleoedd a gynigir gan yr adran y tu hwnt i’r stafell ddarlithio. Bu’r dysgu bob amser yn ysbrydoledig, gyda grwpiau seminar bychain yn hybu trafodaeth, a nifer o’r modiwlau yn cynnig amrywiaeth o ran y gwaith asesedig, oedd yn cynnwys dyddiaduron dysgu, adolygiadau o lyfrau ac arolygon. Ac o ran adnoddau, nid oes angen edrych ymhellach na llyfrgell Hugh Owen neu’r Llyfrgell Genedlaethol ragorol sydd ar ein stepen drws. Bûm yn ffodus dros ben i allu bod yn rhan o nifer o gynlluniau yn yr adran, gan gynnwys semester dramor yn astudio ym Mhrifysgol McGill yn Montreal, Canada. Roedd yn brofiad ffantastig, cyfle i deithio a phrofi diwylliant newydd a gwneud nifer o ffrindiau, a rhoi persbectif gwahanol ar ddysgu’r pwnc hefyd. Roeddwn hefyd yn ffodus i gael fy nerbyn ar y Cynllun Lleoliadau Seneddol, a bum yn gweithio am 5 wythnos yn cysgodi fy Aelod Seneddol lleol yn San Steffan – profiad gwych i fod yn rhan o wleidyddiaeth real dros ben. Cefais hefyd brofiad gwaith 10 wythnos gyda Chysylltiadau Cyhoeddus lleol – profiad heb ei ail fydd yn help gobeithio wrth chwilio am swydd yn y dyfodol! Iolo Cheung

Entry Requirements

A Levels BBB with B in any subject

GCSE requirements (grade C min):
English or Welsh

BTEC National Diploma:
DMM-DDM

International Students

International Baccalaureate:
30 points overall

European Baccalaureate:
70-75% overall

Back to the top