BA Welsh

The information on this page relates to September 2016 entry. For 2017 information, including grade requirements, please check our prospectus.

Myfyrwyr BA Cymraeg mewn darlith

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Cymraeg yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, byddi’n dewis astudio yn yr adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. I ddysgu mwy am y cwrs arbennig a phoblogaidd hwn, ehanga’r testun isod...

Overview

Mae gradd yn y Gymraeg yn agor drysau ac mae gwerth arbennig i’r cwrs hwn gan fod safon ymchwil ac addysgu’r adran yma yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib. Rhan o waith yr Adran yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y Gymru gyfoes a thu hwnt, a dyna a wnewn yn ystod dy gyfnod fel myfyriwr gyda ni. Bydd gradd yn y Gymraeg yn dy baratoi am amrywiaeth o swyddi ac yn datblygu dy sgiliau ieithyddol, creadigol a chyfathrebu. Fel adran rydym yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Yn ystod dy gyfnod fel myfyriwr gyda ni byddi’n cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n rhychwantu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cei dy ddysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddi’n dilyn cwrs cyffrous a heriol.

Pam Astudio Cymraeg yn Aberystwyth?

Byth oddi ar sefydlu y Coleg yn Aberystwyth yn 1872, bu Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a’r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion mwyaf nodedig Cymru yn dysgu ac yn astudio yma. Does dim syndod bod y radd sengl Gymraeg yn Aberystwyth yn parhau i fod mor boblogaidd - Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yw’r Adran hynaf a’r fwyaf o’i bath yn y byd.

Mae cymuned glos a chyfeillgar iawn o fewn Adran y Gymraeg ac mae’r staff yn ymfalchio yn eu perthynas â’i myfyrwyr. Byddi’n cael dy ddysgu yma gan staff sy’n arloesi yn eu meysydd. Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf (2014), cafodd 90% o ymchwil yr adran ei graddio fel ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yn ogystal â hwn, cafodd hanner o’r holl ymchwil o’r adran cael ei dosbarthu yn rhagorol yn rhyngwladol a chwarter gyda’r gorau yn y byd. Wrth astudio yma byddi’n dyfnhau dy ddealltwriaeth o’r iaith, ei llenyddiaeth gyfoethog, a’i diwylliant. Yn Aberystwyth, mae’n anodd dianc o’r bwrlwm Cymraeg a Chymreig sy’n bodoli yma ac mae hynny yn fantais fawr i’r myfyrwyr sy’n dewis astudio Cymraeg fel pwnc.

Mae gennym fantais fawr arall yn Aberystwyth gan mai dyma gartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn llyfrgell hawlfraint. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau. Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd wrth law. Trwy ddewis dod yma i Aberystwyth byddi hefyd yn dod yn ran o fwrlwm o ddarlithoedd cyhoeddus, lansiadau, perfformiadau a sgyrsiau sy’n digwydd yn gyson trwy’r flwyddyn yr yr Adran ei hun a’r tu hwnt.

Course Content

Welsh medium modules available

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Year 1 Core (40 Credits) Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf gymryd y modiwlau hyn:

Semester 1

Themâu A Ffigurau Llên C.550-1900 CY10110

Cymraeg Ddoe A Heddiw 1 (iaith Gyntaf) CY10300

Seminarau Iaith A Llên (iaith Gyntaf) CY10400

Semester 2

Beirdd A Llenorion O 1900 Hyd Heddiw CY10210

Cymraeg Ddoe A Heddiw 1 (iaith Gyntaf) CY10310

Seminarau Iaith A Llên (iaith Gyntaf) CY10410

Year 1 Options Rhaid i bob myfyriwr ail iaith gymryd y modiwlau yma:

Semester 1

Llenyddiaeth O 1900 Hyd Heddiw CY10610

Cymraeg Ysgrifenedig 1 CY10710

Semester 2

Braslun O Hanes Ein Llên CY10510

Cymraeg Ysgrifenedig 2 CY10810

Year 1 Options Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf ddewis modiwlau gwerth 20 credyd o blith y canlynol:

Semester 1

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar I CY12510

Semester 2

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar Ii CY12610

Year 1 Options Rhaid i bob myfyriwr ail iaith ddewis modiwlau gwerth 20 credyd o blith y canlynol:

Semester 1

Trafod Y Byd Cyfoes Trwy'r Gymraeg I CY12810

Semester 2

Trafod Y Byd Cyfoes Trwy'r Gymraeg Ii CY12910

Year 2 Options Mae Gloywi Iaith yn orfodol i fyfyrwyr Iaith Gyntaf yn eu hail flwyddyn.

Semester 1

Gloywi Iaith CY20100

Semester 2

Gloywi Iaith CY20120

Year 2 Options Mae Cymraeg Llyfr a Llafar yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaith yn eu hail flwyddyn.

Semester 1

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar I CY20210

Semester 2

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar Ii CY20310

Available both years Options Dewiswch rhwng 180 a 220 o gredydau o blith modiwlau lefelau 2 a 3 yr Adran / Choose between 180 and 220 credits of level 2 and 3 in the department

Semester 1

Rhyddiaith Y Dadeni CY33620

Llenyddiaeth Glasurol A Phoblogaidd, 1740-1800 CY33920

Y Gynghanedd: Cwrs Trochi CY34520

Traethawd Estynedig CY35100

Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35320

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35600

Semester 2

Y Cynfeirdd Diweddar CY33120

Y Chwedl Arthuraidd Cyn 1100 CY33420

Ysgrifennu Creadigol CY34120

Traddodiad Benywaidd? Merched A Barddoniaeth 1400-1800 CY34220

Traethawd Estynedig CY35120

Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35420

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35620

Both Semesters

Ysgrifennu Creadigol CY34100

Final Year Options Mae'r modiwl yma yn orfodol yn y drydedd flwyddyn i fyfyrwyr Ail Iaith.

Semester 1

Gloywi Iaith CY20100

Semester 2

Gloywi Iaith CY20120

Final Year Options Ar gael yn y flwyddyn olaf yn unig.

Semester 1

Traethawd Estynedig CY35100

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35600

Semester 2

Traethawd Estynedig CY35120

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35620

Available both years Options Dewiswch rhwng 180 a 220 o gredydau o blith modiwlau lefelau 2 a 3 yr Adran / Choose between 180 and 220 credits of level 2 and 3 in the department

Semester 1

Rhyddiaith Y Dadeni CY33620

Llenyddiaeth Glasurol A Phoblogaidd, 1740-1800 CY33920

Y Gynghanedd: Cwrs Trochi CY34520

Traethawd Estynedig CY35100

Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35320

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35600

Semester 2

Y Cynfeirdd Diweddar CY33120

Y Chwedl Arthuraidd Cyn 1100 CY33420

Ysgrifennu Creadigol CY34120

Traddodiad Benywaidd? Merched A Barddoniaeth 1400-1800 CY34220

Traethawd Estynedig CY35120

Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35420

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35620

Both Semesters

Ysgrifennu Creadigol CY34100

Employability

Rhagolygon Gyrfa

Mae cyflogwyr yn datgan yn gyson fod gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth yn arwydd o safon cyrhaeddiad uchel iawn, ac o ganlyniad mae galw mawr ymhlith darpar gyflogwyr am raddedigion o’r Adran mewn amrywiaeth helaeth o swyddi yn y sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru. Perthyn gwerth neilltuol i’r radd sengl hon yn y Gymraeg.

Mae graddedigion Adran y Gymraeg yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, ac am bobl i gyfieithu ac i weinyddu mewn sawl cylch. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel cyhoeddi llyfrau, y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Sgiliau Trosglwyddadwy 

Bydd astudio am radd yn y Gymraeg yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:

• ymchwilio a dadansoddi data
• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
• gweithio’n annibynnol
• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
• sgiliau technoleg gwybodaeth

Blwyddyn Mewn Gwaith
Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i fyfyriwr israddedig gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Unedig neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall dy helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol dy helpu i ystyried dy opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales
Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle iti ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi dy CV ac yn dy wneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Teaching, Learning and Assessment

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

Mae tair ffrwd o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf; Cymraeg iaith gyntaf, Cymraeg ail iaith a Dechreuwyr. Bydd pob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn dilyn rhai modiwlau craidd (a fydd yn ddibynnol ar dy ffrwd).

Rydym yn cynnig nifer o fodiwlau yn y flwyddyn gyntaf sy’n cynnwys arolwg o rai o uchafbwyntiau ein llên o’r chweched ganrif hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddi’n cael cyflwyniad beirniadol i ryddiaith a barddoniaeth ddiweddar wrth ddilyn y modiwlau hyn.
Mae cyfres o ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar hanes a thafodieithoedd y Gymraeg ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf yn y flwyddyn gyntaf, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn cael cyfres o seminarau iaith. Mae’r modiwl ar gyfryngau diwylliant yn un poblogaidd arall, sy’n olrhain y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo diwylliant yng Nghymru.

Yn ystod dy ail a dy drydedd flwyddyn, bydd dewis eang iawn o fodiwlau gen ti. Bydd y myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dewis o’r un modiwlau bellach. Mae’r modiwlau hynny’n cynnwys pethau mor amrywiol ag ‘Ysgrifennu Creadigol’, ‘Llên Gwerin Hen a Chyfoes’; ‘Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar’ a ‘Hanes a Hanfodion Beirniadaeth Lenyddol’. Cei gyfle i ddewis a dethol modiwlau sydd o ddiddordeb penodol iti, neu ddewis rhai mwy galwedigaethol eu natur.

Sut y byddi’n cael dy ddysgu?

Yn Adran y Gymraeg gwneir y dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Mae gwaith y myfyrwyr yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.

Tiwtor Personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti am gyfnod cyfan dy gwrs gradd, a bydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Student Views

Roeddwn yn benderfynol fy mod am astudio’r Gymraeg a chan fod yr Adran yn Aberystwyth ymhlith y gorau yn y byd roedd y dewis yn un hawdd i mi. Roedd enw da’r Adran yn sicr wedi fy nenu yma, ac roedd lleoliad Aberystwyth yn ffactor pwysig hefyd. Hefyd roedd bywyd cymdeithasol y Brifysgol a naws cartrefol y dref yn apelio’n fawr ataf. Roedd Diwrnod Agored y Brifysgol yn hollol allweddol i’m penderfyniad terfynol. Ar ôl gweld y campws a’r llety a chael cipolwg ar fywyd y dref roedd fy mhenderfyniad wedi’i wneud. Cefais gyfle hefyd i ymweld â’r Adran a chwrdd â’r staff. Roeddent yn hynod o groesawgar, eu gwybodaeth yn ddefnyddiol a’u brwdfrydedd wedi fy annog i ddod i astudio yn Aberystwyth. Mae’r dewis o fodiwlau sydd ar gael yn rhagorol – mae rhwybeth at ddant pawb. Mae’r dysgu hefyd yn ennyn diddordeb a mwynhad yn y pynciau. Mae Aberystwyth yn unigryw. Bydden i’n bendant yn argymell Aberystwyth i eraill. Rachel Morgan

Key Information Set

Key Facts

UCAS Code: Q560

Tariff Required: 260

Entry Requirements: Welsh at grade B. GCSE: Grade C in English or Welsh.

Course Length: 3 Years