BA

Welsh and the Celtic Languages

This course is available through Clearing.
Call free phone: +44 (0) 800 121 40 80

Key Facts

Code Q562
  • Typical A-level offer

    BCC with B in Welsh 1st or 2nd Language

  • Course Length

    3 Years

Further details on entry requirements

Apply Now

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, byddi’n dewis astudio yn yr adran hynaf o’i bath yn y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes a rhyngwladol. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol, ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori.

Department of Welsh and Celtic Studies: 100% student satisfaction (NSS 2016)

100% of undergraduates from the Department of Welsh and Celtic Studies who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

  • Overview
  • Modules
  • Employability
  • Teaching & Learning

Overview

  • Enw da – Mae gradd yn y Gymraeg yn agor drysau ac mae gwerth arbennig i’r cwrs hwn gan fod safon ymchwil ac addysgu’r adran hon yn Aberystwyth gyda’r uchaf posib.
  • Hanes – Hon yw’r Adran Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru (1875)
  • Arbenigwyr - Byddwch chi’n cael eich dysgu gan ddarlithywyr yr Adran sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd.
  • Dewis eang – Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.
  • Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r manylion ar gael yn llawn ar y dudalen Dysgu ac Addysgu.
  • Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  • Adran sy’n Agorau Drysau – Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth. Dysgwch ragor am swyddi rhai o’n graddedigion yma.
  • Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus -  Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar.
  • Boddhad Myfyrwyr - Mae boddhad ein myfyrwyr yn uchel iawn yn gyson. Eleni, Aberystwyth sydd ar y brig o blith yr holl adrannau Cymraeg yn holiadur yr NSS o ran bodlonrwydd myfyrwyr. Enillodd yr Adran 100% am fodlonrwydd cyffredinol.
Our Staff

All academic staff in the Department of Welsh and Celtic Studies are research active scholars and experts in their chosen fields of study, including the study of languages and literatures as well as creative writing.

Modules

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

  • Iaith Gyntaf: Rhaid i'r myfyrwyr astudio o leiaf 60 credyd CY/GC/IR/LL gan gynnwys o leiaf 20 credyd CY allan o fodiwlau craidd y Radd Gymraeg (sef CY10110-10410) + o leiaf 20 credyd naill ai GC/IR neu LL.
  • Ail Iaith: Rhaid i'r myfyrwyr astudio o leiaf 60 credyd CY/GC/IR/LL gan gynnwys o leiaf 20 credyd CY allan o fodiwlau craidd y radd Gymraeg (sef CY10510-10810) + o leiaf 20 credyd naill ai GC/IR neu LL.
  • Mae Gloywi Iaith yn orfodol i fyfyrwyr Iaith Gyntaf yn eu hail flwyddyn.
  • Mae Cymraeg Llyfr a Llafar yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaith yn eu hail flwyddyn.
  • Mae'r modiwl yma yn orfodol yn y drydedd flwyddyn i fyfyrwyr Ail Iaith.
  • Yn semester 1, blwyddyn 3, byddwch yn astuio Gwyddeleg neu Lydaweg mewn Prifysgol Dramor, trwy'r rhaglen ERASMWS+.
  • Ar gael yn y flwyddyn olaf yn unig
  • Dewisiwch o leiaf 160 credyd (Iaith Gyntaf) neu 140 credyd (Ail Iaith) CY/GC/IR/LL gan gynnwys oleiaf 60 credyd CY + o leiaf 60 credyd naill ai GC neu LL

Employability

 Mae’r Gymraeg ac Ieithoedd Celtaidd yn agor drysau!

  • Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth: cyfieithu a mentrau iaith; gweinyddu; llywodraeth leol a gwleidyddiaeth Cymru a’r byd; addysg a’r byd academaidd; y cyfryngau, sgriptio, cynhyrchu a darlledu; y diwydiant cyhoeddi, llenydda, golygu, marchnata; twristiaeth a’r diwydiant treftadaeth; busnes cenedlaethol a rhyngwladol. Dysgwch ragor am swyddi rhai o’n graddedigion ar y dudalen ‘Ydy fy swydd yn dy siwtio?’

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • ymchwilio a dadansoddi data
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
  • gweithio’n annibynnol
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
  • sgiliau technoleg gwybodaeth

Rhagolygon Gyrfa

Mae cyflogwyr yn datgan yn gyson fod gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth yn arwydd o safon cyrhaeddiad uchel iawn, ac o ganlyniad mae galw mawr ymhlith darpar gyflogwyr am raddedigion o’r Adran mewn amrywiaeth helaeth o swyddi yn y sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru. Perthyn gwerth neilltuol i’r radd sengl hon yn y Gymraeg.

Mae graddedigion Adran y Gymraeg yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, ac am bobl i gyfieithu ac i weinyddu mewn sawl cylch. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel cyhoeddi llyfrau, y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Teaching & Learning

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

Un o rinweddau Adran y Gymraeg yw’r dewis eang o fodiwlau a gyngir, sy’n cynnwys arolwg o rai o uchafbwyntiau ein llên o’r chweched ganrif hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddi’n cael cyflwyniad beirniadol i ryddiaith a barddoniaeth ddiweddar wrth ddilyn y modiwlau hyn. Gallai’r modiwlau y byddi’n eu dilyn ar y cwrs Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd gynnwys ‘Cyflwyniad i Wyddeleg Modern a'i Llenyddiaeth’, ‘Cymraeg Ddoe a Heddiw’, ‘Diwylliant Celtaidd’ a ‘Braslun o Hanes ein Llên’ i enwi ond rhai.

Yn ystod dy ail a dy drydedd flwyddyn, byddi’n datblygu dy wybodaeth ymhellach ac yn cael dewis pynciau sydd o ddiddordeb penodol iti. Mae’r pynciau hynny’n cynnwys ‘Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79’, ‘Hanes a Hanfodion Beirniadaeth Lenyddol’, ‘Llenyddiaeth Lydaweg’ a ‘Ieitheg Geltaidd Gymharol’.

Dros dair blynedd felly, byddi’n meithrin y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd ac yn magu dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol. Mae natur yr arlwy o fodiwlau yn golygu y galli gyfuno astudiaeth iaith, llenyddiaeth a diwylliant cyfoes neu hanesyddol yn y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill.

Sut y byddi’n cael dy ddysgu?

Yn Adran y Gymraeg gwneir y dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.

Mae gwaith y myfyrwyr yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.

Tiwtor Personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti am gyfnod cyfan dy gwrs gradd, a bydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Typical Entry Requirements

A Levels BCC with B in Welsh 1st or 2nd Language

GCSE requirements (grade C min):
English or Welsh

BTEC National Diploma:
MMM-DMM with B in A level Welsh 1st or 2nd Language

International Students

International Baccalaureate:
24 points overall with B in A level Welsh 1st or 2nd Language

European Baccalaureate:
65% overall with B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Applicants are considered on their individual merits and offers can vary. For further information, please contact ug-admissions@aber.ac.uk

Back to the top