BA Geography / History

The information on this page relates to September 2016 entry. For 2017 information, including grade requirements, please check our prospectus.

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA anrhydedd cyfun hwn, Daearyddiaeth a Hanes, ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n dewis astudio mewn dwy adran uchel eu bri. Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yw un o’r adrannau mwyaf ei maint a’r mwyaf byrlymus o’i bath ym Mhrydain. Mae adnoddau dysgu ac addysgu gwych yn yr adran – sy’n berffaith i dy helpu i gael y canlyniadau gorau posibl ac i archwilio meysydd newydd a chyffrous. Mae Daearyddwyr yn astudio’r prosesau dynol a ffisegol sy’n ffurfio’r ddaear, a’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol a gwyd yn sgîl rhyngweithio rhwng pobl a’r ddaear, ac o ddewis Aberystwyth byddi’n dewis un o’r mannau gorau posib i astudio Daearyddiaeth.

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cael ei chydnabod yn un o’r prif adrannau Hanes ym Mhrydain. Bwriad elfen hanesyddol y radd yw datblygu dy ddiddordebau hanesyddol, gan ehangu a dyfnhau dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o’r pwnc. Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i fod yn hyblyg iawn, fel bod modd teilwra’r radd i dy ddiddordebau penodol dy hun. Fel rhan o dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n meithrin sgiliau gwerthfawr gan gynnwys y gallu i brosesu llawer iawn o wybodaeth a chyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac ar bapur.

I ddysgu mwy am y cwrs cyfrwng Cymraeg arbennig hwn, ehanga’r testun isod...

Overview

Mae elfen ddaearyddol y cwrs yn gyfuniad o ddaearyddiaeth ffisegol a dynol, felly byddi’n profi amrywiaeth gyflawn y ddisgyblaeth ar draws y prosesau ffisegol a dynol sy’n llunio tirweddau a lleoedd ledled y byd. Byddi hefyd yn astudio’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol sy’n codi yn sgîl perthynas dyn â’r ddaear. Defnyddir enghreifftiau o bedwar ban byd, ond mae llawer o’r modiwlau yn canolbwyntio’n benodol ar Gymru ac ar ei daearyddiaeth a’i hamgylchedd.

Mae’r angen i ystyried materion daearyddiaeth ffisegol a dynol fel pynciau cysylltiedig, yn hytrach nac ar wahân, yn dod yn fwyfwy pwysig yn y byd sydd ohoni. I gynllunio ar gyfer effeithiau daeargrynfeydd mae angen deall y prosesau ffisegol a’r ystyriaethau dynol. Mae cynllunio ar gyfer adnoddau dŵr y dyfodol yn gofyn am ddealltwriaeth o hydroleg ac o wleidyddiaeth. Mae dadl a her newid hinsawdd yn gofyn am ddealltwriaeth o’r atmosffer a’r economi.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd elfen Hanes y cwrs gradd yn dy alluogi i roi’r gorffennol mewn perspectif gan feithrin sgiliau dadansoddol, dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd.

Pam Astudio Daearyddiaeth a Hanes yn Aberystwyth?

Mae cymuned glos a chyfeillgar yn bodoli yn y ddwy Adran, sydd wedi eu lleoli yng nghanol campws y Brifysgol. Mae Aberystwyth yn lleoliad gwych i astudio Daearyddiaeth – rhwng y môr a’r mynydd ar arfodir hardd Ceredigion. Mae’r adran yn gartref i labordai ac ystafelloedd cyfrifiadurol o’r radd flaenaf ac yn rhan o’r cwrs bydd myfyrwyr yn gwneud gwaith maes dwys ac yn cael cyfle i deithio. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2014, cafodd ADGD ei enwi fel yr adran Ddaearyddiaeth gorau yng Nghymru, gyda 78% o'r ymchwil yn cael ei gydnabod fel rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn y pymtheg uchaf o adrannau Daearyddiaeth y yn Deyrnas Unedig o ran pŵer ymchwil, sy'n mesur o ansawdd yr ymchwil, yn ogystal ag y nifer y staff sy'n ymchwilio o fewn yr adran.

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr am 2015 yn dangos lefelau uchel o fodlonrwydd mewn cyrsiau Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol a’r Gwyddorau Amgylcheddol, a nododd 91% eu bodolonrwydd ag ansawdd y dysgu. Roedd bodlonrwydd cyffredinol yn uwch na’r cyfartaledd yn y pwnc yn y DG.

Roedd 96% o’n graddedigion Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear mewn gwaith neu astudiaethau pellach 6 mis ar ôl graddio, sydd 11 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 3 phwynt canran yn uwch na’r cyfartaledd yn y pwnc yn y DG (DLHE 2014).

Mae mwy na 30 o staff darlithio yn yr Adran, felly gallwn ddysgu ystod anferth o fodiwlau arbenigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau: o newid yn yr hinsawdd, sut mae ffrwydradau llosgfynyddoedd yn effeithio ar yr amgylchedd, y tueddiadau cyfoes mewn geoberyglon, diflaniad nifer fawr o rywogaethau, gwyddoniaeth fforensig, cynaliadwyedd trefol, datblygu rhanbarthau, a dyfodol y genedl-wladwriaeth.

Mae cynlluniau gradd yr adran yn gyson yn ennyn lefel uchel o foddhad myfyrwyr sy’n cael ei gydnabod yn Arolwg Cenedlaethol Blynyddol y Myfyrwyr. Dros y pum mlynedd ddiwethaf rydym wedi ennill y raddfa gyffredinol uchaf am foddhad myfyrwyr am ein cynlluniau gradd.

Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydyn ni’n eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd Hanes orau posib. Mae’r cynlluniau gradd yn gyffrous a diddorol.

Mae yma Gymdeithas Hanes fywiog sy’n trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o gysylltiadau â phrifysgolion tramor, sy’n golygu y gallet fanteisio ar y cyfle i dreulio amser dramor yn mwynhau diwylliant hanesyddol gwahanol.

Mae diddordebau ein darlithwyr yn amrywio o’r cynfyd i’r byd modern, felly gallwn gynnig modiwlau hanes diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a gwleidyddiol amrywiol o bob cyfnod i ti. Mae’r darlithwyr i gyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar hefyd. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu mewn grwpiau bach, a bron yn unigryw am ddarparu sesiynau tiwtorial un-i-un. Bydd hyn yn fantais mawr iti fel myfyriwr.

Roedd 91% o raddedigion Hanes 2014 mewn gwaith neu astudiaethau pellach 6 mis ar ôl graddio, sydd i fyny 10 pwynt canran ar y flwyddyn flaenorol (DLHE 2014). Cafwyd cynnydd hefyd o 15 pwynt canran dros y flwyddyn yn nifer y rhai a aeth i waith ar lefel proffesiynol neu i addysg ar lefel raddedig, o’i gymharu â chynnydd o 2.5 pwynt canran yn genedlaethol.

Mae hyn i gyd yn adlewyrchu ein buddsoddiad mewn cynlluniau dyfeisgar a strategol i wneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy, cynlluniau sy’n cwmpasu pob un o’n Hathrofeydd academaidd a chredwn yn gryf fod rhain yn debygol o wella ein graddfa ar gyfer cyflogadwyedd ymhellach.

Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r campws ac mae’n adnodd gwerthfawr iawn.

Our Staff

Department of Geography and Earth Science: lecturers are all qualified to PhD level or working towards a PhD.

Department of History and Welsh History lecturers are all qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Course Content

Welsh medium modules available

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Year 1 Core (30 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Cefn Gwlad A'r Ddinas DA10210

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 1 DA11900

Semester 2

Pobl A Lle DA10110

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 1 DA11910

Year 1 Options RHAID i bob myfyriwr gymryd modiwl craidd Rhan Un yr Adran (trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg):

Semester 1

Cyflwyno Hanes HA12120

Introduction To History HY12120

Year 1 Options Rhaid i fyfyrwyr Rhan Un gymryd 40 credyd arall yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru:

Semester 1

Concwest, Uno A Hunaniaeth Yng Nghymru 1250-1800 HC11120

Cymru A'r Byd: Cysylltiadau A Dylanwadau 1860 - 2000 HC11520

Stuart England: War, Political Crisis And Social Change 1629-1714 HY11920

Russia Since 1900 HY12020

Nationalism, Totalitarianism And Democratization: Czechoslov HY12220

Soldiers, Saints & Serfs: England, 1042-1154 HY14320

Conquest, Union And Identity In Wales 1250-1800 WH11120

Semester 2

Y Dirwasgiad Mawr: Hanes Cymharol America A Phrydain HA10620

Argyfwng, Gwrthryfel A Ffydd Yn Ewrop C.1000-1540 HA10820

Oes Y Fictoriaid HA13820

Age Of Magna Carta-england And Its Neighbours C1180-c1280 HY12520

Three Queens And Their Subjects HY12720

Britain And The First World War HY13220

Modernity And The Making Of Asia HY15220

From Revolution To World War: Wales 1789-1914 WH11620

Year 1 Options Dylai myfyrwyr gymryd 50 credyd, naill ai o'r rhestr isod, neu o fodiwlau priodol eraill a gynygir yn ADGD

Semester 1

Amgylcheddau Wyneb Y Ddaear DA10610

The Atmosphere And The Water Cycle EA12210

Key Concepts And Skills For Geographers GG13000

Semester 2

Amgylchedd Cymru DA10810

Methodoleg Maes Amgylcheddol DA10910

Byw Gyda Risg DA12810

Cofnod Daearegol Bywyd Ar Y Ddaear GA10210

Global Ecology And Soil Systems GG10410

Climate Change: Impacts, Perceptions, Adaptations GG10810

Global Environmental Issues GG12710

Key Concepts And Skills For Geographers GG13020

Power, Place And Development GG14210

Year 2 Core (20 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2 DA22100

Researching People And Place GG20510

Semester 2

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2 DA22110

Year 2 Core (20 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2 DA22100

Researching People And Place GG20510

Semester 2

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2 DA22110

Year 2 Options (20 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis naill ai DA22420 neu GG22420

Semester 2

Gwaith Maes Daearyddiaeth DA22420

Geography Fieldwork GG22420

Year 2 Options RHAID i fyfyrwyr astudio modiwl craidd yr ail flwyddyn yn Hanes a Hanes Cymru yn Semester Un (naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg):

Semester 1

Llunio Hanes HA30120

Making History HY30120

Year 2 Options RHAID i fyfyrwyr yr Ail Flwyddyn astudio un modiwl AROLWG 20 credyd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn Semester Un:

Semester 1

Concro'r Byd: Tŵf A Chwymp Ymerodraethau Prydain A Ffrainc HA31820

The Challenge To Christendom HY31020

Early Modernity In Europe HY31120

War & Society In History HY31620

Year 2 Options (40 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod neu o fodiwlau priodol eraill a gynygir yn ADGD

Semester 1

Cyfathrebu Cymdeithas A Gwyddor DA28610

Lleoli Gwleidyddiaeth DA28700

Placing Culture GG28500

Sustainability And Resilience GG28910

Semester 2

Gwaith Maes Daearyddiaeth DA22420

Lleoli Gwleidyddiaeth DA28720

Geohazards EA22810

Concepts For Geographers GG20410

Geography Fieldwork GG22420

Placing Culture GG28520

The Welsh Environment GG29110

Year 2 Options (40 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod.

Semester 1

Geomorffoleg Afonol DA22510

Cyfathrebu Cymdeithas A Gwyddor DA28610

Lleoli Gwleidyddiaeth DA28700

Placing Culture GG28500

Sustainability And Resilience GG28910

Semester 2

Hanes Amgylcheddol DA22710

Lleoli Gwleidyddiaeth DA28720

Placing Culture GG28520

The Welsh Environment GG29110

Year 2 Options Dylai myfyrwyr yr Ail Flwyddyn ddewws un modiwl SGILIAU 20 credyd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn Semester Dau:

Semester 2

Gwrando Ar Hanes: Y Mudiad Hawliau Sifil Yn America HA34720

Investigating Georgian And Victorian Landscapes HY32720

History As Myth-making: The 'myth Of The Blitz' HY33420

Germans And Nazism Since 1933: Reading Public Opinion Surveys, Diaries And Memoirs HY33520

Image Wars In Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda HY33720

Journalism And The Writing Of History HY33920

Medieval Chronicles: Historical Writing In The British Isles 540-1300 HY34020

History In Cartoons: Studying Georgian Satirical Prints HY34320

Seals In Their Context In Medieval England And Wales HY34420

Exploring Nineteenth-century Exhibitions HY34620

Year 2 Options NEU dylai myfyrwyr yr Ail Flwyddyn ddewis un modiwl OPSIYNOL 20 credyd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, naill ai yn Semester Un neu Semester Dau:

Semester 1

Gwrthdaro A Chydfodolaeth: Cymru O’r Normaniaid Hyd Glyndŵr HC32220

Oes Yr Ymerodraeth: Prydain Ac Iwerddon, 1850-1914 HC34320

East & West In The Age Of Crusades, C. 1070 - C. 1290 HY35120

Politics And Society In Twentieth-century Britain HY37620

Science, Religion And Magic HY38620

Germany Since 1945 HY39620

The Atlantic World, 1492-1825 HY39720

Rhyfel Algeria 1952-1964 IE20420

An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914 WH34320

Semester 2

Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850 HC33420

The British Isles And The ‘english Revolution’ HY35720

From Black Death To Great Fire: The British Town 1349-1700 HY36120

War, Famine And Plague: England In The Fourteenth Century HY36720

Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power HY39120

Culture, Society And The Victorians HY39320

The Soviet Union And The World, 1917-1991 HY39520

Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850 WH33420

Civil War And Revolution In Stuart Wales, 1603-1714 WH36220

Available both years Electives Mae'r Adan Hanes a Hanes Cymru yn disgwyl i fyfyrwyr ar gynlluniau cyfrwng Cymraeg astudio o leiaf 60 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg (40 credyd i fyfyrwyr anrhydedd is-bwnc). Cofier hefyd fod yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi derbyn ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol astudio 80 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Year 3 Core (20 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc DA34200

Semester 2

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc DA34220

Year 3 Core (20 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc DA34200

Semester 2

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc DA34220

Year 3 Options (60 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 60 credyd o'r modiwlau isod.

Semester 1

Adnoddau Dwr A Hydroleg Bydol DA31620

River Systems And Global Environmental Change GG30420

Earth Observation From Satellites And Aircraft GG32020

Geographical Information Systems GG32820

Palaeoenvironmental Change Beyond The Ice Sheets GG33120

Palaeoglaciology GG33920

Landscapes Of British Modernity GG36220

Geographies Of Memory GG37920

Regional Geographies GG39920

Semester 2

Daearyddiaethau Cenedlaetholdeb DA32220

Volcanic Activity: Hazards And Environmental Change EA30420

Process Glaciology GG30320

People, Climate And Environment: A Palaeoenvironmental Perspective GG33720

Geographies Of The Global Countryside GG36820

Urban Risk And Environmental Resilience GG37520

World Regional Islam GG38420

Year 3 Options (40 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod.

Semester 1

Adnoddau Dwr A Hydroleg Bydol DA31620

River Systems And Global Environmental Change GG30420

Earth Observation From Satellites And Aircraft GG32020

Geographical Information Systems GG32820

Palaeoglaciology GG33920

Landscapes Of British Modernity GG36220

Geographies Of Memory GG37920

Regional Geographies GG39920

Semester 2

Daearyddiaethau Cenedlaetholdeb DA32220

Volcanic Activity: Hazards And Environmental Change EA30420

Process Glaciology GG30320

People, Climate And Environment: A Palaeoenvironmental Perspective GG33720

Geographies Of The Global Countryside GG36820

Urban Risk And Environmental Resilience GG37520

World Regional Islam GG38420

Final Year Options RHAID i fyfyrwyr y Flwyddyn Olaf astudio un modiwl AROLWG 20 credyd yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn Semester Un:

Semester 1

Concro'r Byd: Tŵf A Chwymp Ymerodraethau Prydain A Ffrainc HA31820

The Challenge To Christendom HY31020

Early Modernity In Europe HY31120

War & Society In History HY31620

Final Year Options Dylai myfyrwyr y Flwyddyn Olaf ddewis gwerth 20-40 credyd o fodiwlau OPSIYNOL yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, naill ai yn Semester Un neu Semester Dau:

Semester 1

Gwrthdaro A Chydfodolaeth: Cymru O’r Normaniaid Hyd Glyndŵr HC32220

Oes Yr Ymerodraeth: Prydain Ac Iwerddon, 1850-1914 HC34320

East & West In The Age Of Crusades, C. 1070 - C. 1290 HY35120

Politics And Society In Twentieth-century Britain HY37620

Science, Religion And Magic HY38620

Germany Since 1945 HY39620

The Atlantic World, 1492-1825 HY39720

Rhyfel Algeria 1952-1964 IE20420

An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914 WH34320

Semester 2

Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850 HC33420

The British Isles And The ‘english Revolution’ HY35720

From Black Death To Great Fire: The British Town 1349-1700 HY36120

War, Famine And Plague: England In The Fourteenth Century HY36720

Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power HY39120

Culture, Society And The Victorians HY39320

The Soviet Union And The World, 1917-1991 HY39520

Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850 WH33420

Civil War And Revolution In Stuart Wales, 1603-1714 WH36220

Available both years Electives Mae'r Adan Hanes a Hanes Cymru yn disgwyl i fyfyrwyr ar gynlluniau cyfrwng Cymraeg astudio o leiaf 60 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg (40 credyd i fyfyrwyr anrhydedd is-bwnc). Cofier hefyd fod yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi derbyn ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol astudio 80 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Employability

Rhagolygon Gyrfa 

Er mwyn iti ddarganfod y llwybr gyrfa gorau i ti, byddi’n cael cynghorydd pwnc-benodol a fydd yn dy gynorthwyo i lunio Cynllun Datblygu Personol. Bydd y broses hon yn dy annog i ystyried beth wyt ti’n ei ddysgu a beth hoffet ti ei wneud yn y dyfodol fel bod dy holl ddewisiadau academaidd yn dy yrru i gyfeiriad dy yrfa yn y dyfodol. 

Mae gradd o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn rhoi sylfaen wych ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol a gwybodaeth gyffredinol ac arbenigol berthnasol. Mae daearyddwyr yn cael eu cyflogi mewn amrywiaeth eang o broffesiynau, yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein graddedigion yn gweithio i Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol, elusennau a chyrff yn y sector gwirfoddol, a chwmnïau preifat, ac fel ymgynghorwyr amgylcheddol, athrawon, cynllunwyr a swyddogion datblygu economaidd, ymhlith llawer o swyddi eraill.

Bydd llawer o raddedigion Hanes yn mynd i weithio mewn meysydd sy’n uniongyrchol berthnasol i’r pwnc, fel archifau, y diwydiant treftadaeth ac amgueddfeydd, tra bydd eraill yn cael gwaith mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol eraill. Mae’r meysydd hynny’n cynnwys newyddiaduraeth, y cyfryngau, hysbysebu, y gyfraith, llywodraeth leol, llyfrgellyddiaeth, rheoli cofnodion, amrywiaeth o swyddi cysylltiedig ag ymchwil, ysgrifennu’n broffesiynol, yr heddlu a’r gwasanaeth milwrol, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli adnoddau dynol. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Sgiliau Trosglwyddadwy 

Bydd astudio am radd mewn Daearyddiaeth a Hanes yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
• ymchwilio a dadansoddi data
• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
• gallu gweithio’n annibynnol
• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio o fewn i derfynau amser cyfyng
• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
• sgiliau technoleg gwybodaeth

Blwyddyn Mewn Gwaith
Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i israddedigion gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Gyfunol neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall dy helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol dy helpu i ystyried dy opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales

Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle iti ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi dy CV ac yn dy wneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Teaching, Learning and Assessment

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

Mae elfen Ddaearyddiaeth y cwrs yn cynnig cyfuniad o fodiwlau Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol sy’n cwmpasu pob agwedd ar y ddisgyblaeth. Byddi’n astudio materion cyfoes a pherthnasol yn amrywio o’r lleol i’r rhyngwladol. Byddi’n profi cyffro dysgu am y byd ffisegol a dynol nid yn unig mewn darlithoedd ond hefyd trwy gyfrwng darpariaeth ddysgu sydd ymhlith y mwyaf arloesol yn y Deyrnas Gyfunol. 

Mae modiwlau craidd blwyddyn gyntaf y cynllun Daearyddiaeth yn cynnwys pedwar modiwl cyfrwng Cymraeg: ‘Byw gyda Risg’, ‘Pobl a Lle’, ‘Amgylchedd Cymru’ a Cefn Gwlad a’r Ddinas’, a’r modiwl tiwtorial. Galli hefyd ddewis un modiwl opsiynol cyfrwng Cymraeg sef ‘Methodoleg Maes Amgylcheddol’. 

Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, astudir y modiwlau tiwtorial craidd a phrosiect y Traethawd Estynedig drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â’r modiwlau craidd ‘Gwaith Maes Daearyddiaeth’ a ‘Lleoli Gwleidyddiaeth’. Mae nifer o fodiwlau dewisol cyfrwng Cymraeg arbenigol ar gael hefyd, gan gynnwys ‘Geomorffoleg Afonol’ ‘Hanes Amgylcheddol’ , ‘Daearyddiaeth Cenedlaetholdeb’ a ‘Hanes Amgylcheddol’. 

Diben blwyddyn gyntaf elfen Hanes y cwrs yw cyflwyno problemau dadansoddi a dehongli hanes. Yn semester cyntaf Rhan 1 rydym yn cynnig modiwlau rhagarweiniol sy’n adlewyrchu amrywiaeth o ran cyfnod a thema. Rydym yn cynnig modiwl rhagarweiniol mewn cysyniadau a sgiliau hanesyddol, sy’n darparu ar gyfer anghenion pob myfyriwr newydd mewn Hanes, ac yn hwyluso’r newid i astudio yn y brifysgol. Mae hyn yn rhoi golwg ehangach i fyfyrwyr ar yr hanes y maent wedi ei astudio eisoes ac mae’n gyflwyniad delfrydol i fyfyrwyr nad ydynt wedi astudio Hanes i’w lefel A. Byddi hefyd yn dewis modiwlau eraill o blith amrywiaeth eang o themâu a chyfnodau fel y galli astudio’r meysydd sydd o ddiddordeb i ti. 

Yn ystod dy ail flwyddyn, byddi’n dilyn modiwl sy’n archwilio’r ffordd y mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser. Byddi hefyd yn dewis modiwlau o restr hir sydd wedi eu cynllunio i ehangu dy wybodaeth, rhoi cyfle iti arsylwi crefft yr hanesydd, a chanolbwyntio’n fanylach ar bynciau a chyfnodau amrywiol. 

Yn y drydedd flwyddyn cei ddewis pwnc arbennig a fydd yn caniatáu i ti astudio pwnc hanesyddol penodol mewn dyfnder trwy wneud defnydd helaeth o ffynonellau gwreiddiol, gan ddefnyddio sgiliau ymchwilio beriniadol hanesydd, yn ogystal â dewis modiwlau eraill o blith rhestr helaeth.

Sut byddi’n cael dy ddysgu?

Mae gan y cynllun strwythur modiwlaidd hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyfuno hyfforddiant hanfodol mewn sgiliau daearyddol allweddol â diddordebau arbenigol. Fel myfyriwr ar y cynllun Daearyddiaeth, byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, sesiynau tiwtorial, dosbarthiadau ymarferol, cyrsiau maes ac arolygu unigol, a chei dy asesu drwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol a gwaith cwrs, gan gynnwys traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau. Byddi hefyd yn cael dy asesu am waith fel dylunio gwefan, rhoi cyflwyniadau, cynnal arbrofion, ac ymchwilio i dy brosiect unigol dy hun. 

Byddi’n mynd ar daith faes ragarweiniol ar ddechrau’r flwyddyn gyntaf, sy’n ymweld â nifer o fannau yn ardal Aberystwyth, ac sy’n cyflwyno rhai o’r prif faterion y byddi’n eu trafod yn ystod y flwyddyn. Mae hefyd yn ffordd wych o ddod i nabod y myfyrwyr eraill ar dy gwrs.

Amcan sylfaenol y maes llafur Hanes yn Aberystwyth yw cyfleu amrywiaeth a chyffro yr agweddau cyfoes tuag at astudio Hanes, a dysgu sgiliau allweddol fel canfod gwybodaeth, dehongli a hunanfynegiant. Cei dy asesu trwy ddulliau amrywiol fel arholiadau traddodiadol, arholiadau agored, traethodau a asesir, prosiectau a chyflwyniadau, a thraethawd estynedig. Bydd hyn yn fodd i ti gyflawni dy addewid a chyrraedd dy ddisgwyliadau dysgu.

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn chwarae rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau a fydd yn digwydd. Gan mai nifer fach o fyfyrwyr fydd ym mhob grŵp seminar fe fyddi’n cael llawer o sylw gan y darlithwyr.

Mae’r tiwtorialau personol yn rhoi cyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan y darlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, tra bydd seminarau’n gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno.

Tiwtor Personol / Academaidd 

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i ti am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Key Information Set