BA

Geography / Welsh History

Key Facts

Code LVT1
  • Typical A-level offer

    BBB with B in Geography, ABB without Geography

  • Course Length

    3 Years

Further details on entry requirements

Apply Now

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Daearyddiaeth a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n cael y cyfle i astudio mewn dwy adran uchel iawn eu bri sy’n arloesi o ran dysgu ac ymchwil, sef yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a’r Adran Hanes a Hanes Cymru. Mae’r cynllun gradd mewn Daearyddiaeth a Hanes Cymru yn un cyffrous a diddorol ac yn cyfuno arbenigedd haneswyr a daearyddwyr mewn cwrs cyfrannol sy’n rhoi cryn hyblygrwydd i ti wrth ddewis modiwlau.

Department of Geography and Earth Sciences: 95% student satisfaction (NSS 2016)

95% of undergraduates from the Department of Geography and Earth Sciences who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

Department of History and Welsh: 95% student satisfaction (NSS 2016)

92% of undergraduates from the Department of History and Welsh History who graduated in 2015 were in employment or further education six months after graduating (DLHE 2015)

  • Overview
  • Modules
  • Employability
  • Teaching & Learning

Overview

Mae elfen ddaearyddol y cwrs hwn yn gyfuniad o ddaearyddiaeth ffisegol a dynol, felly byddi’n profi amrywiaeth gyflawn y ddisgyblaeth ar draws y prosesau ffisegol a dynol sy’n llunio tirweddau a lleoedd ledled y byd. Byddi hefyd yn astudio’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol sy’n codi yn sgîl perthynas dyn a’r ddaear. Defnyddir enghreifftiau o bedwar ban byd, ond mae llawer o’r modiwlau yn canolbwyntio’n benodol ar Gymru ac ar ei daearyddiaeth a’i hamgylchedd.

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio elfen o hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Cei ddysgu sut mae gorffennol Cymru wedi siapio’r presennol.

Bydd gradd mewn Daearyddiaeth a Hanes Cymru yn rhoi i ti sgiliau dadansoddi, dehongli a chyfathrebu o’r radd flaenaf, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd.

I ddarllen mwy am y cwrs cyffrous hwn, ehanga’r testun isod.

Pam Astudio Daearyddiaeth a Hanes Cymru yn Aberystwyth?

Mae Aberystwyth yn leoliad gwych i astudio Daearyddiaeth – wedi’i leoli rhwng y môr a’r mynyddoedd ar arfodir hardd Ceredigion. Mae’r adran yn gartref i labordai ac ystafelloedd cyfrifiadurol o’r radd flaenaf ac fel rhan o’r cwrs bydd myfyrwyr yn gwneud gwaith maes dwys ac yn cael cyfle i deithio. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2014, cafodd ADGD ei enwi fel yr adran Ddaearyddiaeth gorau yng Nghymru, gyda 78% o'r ymchwil yn cael ei gydnabod fel rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn y pymtheg uchaf o adrannau Daearyddiaeth y yn Deyrnas Unedig o ran pŵer ymchwil, sy'n mesur o ansawdd yr ymchwil, yn ogystal ag y nifer y staff sy'n ymchwilio o fewn yr adran.

Mae mwy na 30 o staff darlithio yn yr Adran, felly gallwn ddysgu ystod anferth o fodiwlau arbenigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau: o newid yn yr hinsawdd, sut mae ffrwydradau llosgfynyddoedd yn effeithio ar yr amgylchedd, y tueddiadau cyfoes mewn daearberyglon, diflaniad niferoedd mawr o rywogaethau, gwyddoniaeth fforensig, cynaliadwyedd trefol, datblygu rhanbarthau, a dyfodol y genedl-wladwriaeth.

Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydym yn eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd orau posib. Mae darlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gyd hefyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd.

Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Daearyddiaeth a Hanes Cymru yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adrannau. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti ysgrifennu dy draethawd estynedig yn dy drydedd flwyddyn.

Our Staff

Department of Geography and Earth Science: lecturers are all qualified to PhD level or working towards a PhD.

Department of History and Welsh History lecturers are all qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Modules

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Researching People And Place
Researching People And Place
Geography Fieldwork
Making History
Early Modernity In Europe
The Challenge To Christendom
War & Society In History
Placing Culture
Sustainability And Resilience
Concepts For Geographers
Geography Fieldwork
Geohazards
The Welsh Environment
Placing Culture
Sustainability And Resilience
The Welsh Environment
Exploring Nineteenth-century Exhibitions
Germans And Nazism Since 1933: Reading Public Opinion Surveys, Diaries And Memoirs
History As Myth-making: The 'myth Of The Blitz'
History In Cartoons: Studying Georgian Satirical Prints
Image Wars In Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda
Investigating Georgian And Victorian Landscapes
Journalism And The Writing Of History
Medieval Chronicles: Historical Writing In The British Isles 540-1300
Seals In Their Context In Medieval England And Wales
An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914
East & West In The Age Of Crusades, C. 1070 - C. 1290
Germany Since 1945
Politics And Society In Twentieth-century Britain
Science, Religion And Magic
The Atlantic World, 1492-1825
Civil War And Revolution In Stuart Wales, 1603-1714
Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850
Culture, Society And The Victorians
Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power
From Black Death To Great Fire: The British Town 1349-1700
The British Isles And The ‘english Revolution’
The Soviet Union And The World, 1917-1991
Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850
War, Famine And Plague: England In The Fourteenth Century

Modules delivered partially or entirely through the medium of Welsh

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2
Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2
Gwaith Maes Daearyddiaeth
Llunio Hanes
Concro'r Byd: Tŵf A Chwymp Ymerodraethau Prydain A Ffrainc
Cyfathrebu Cymdeithas A Gwyddor
Lleoli Gwleidyddiaeth
Gwaith Maes Daearyddiaeth
Cyfathrebu Cymdeithas A Gwyddor
Geomorffoleg Afonol
Lleoli Gwleidyddiaeth
Hanes Amgylcheddol
Gwrando Ar Hanes: Y Mudiad Hawliau Sifil Yn America
Gwrthdaro A Chydfodolaeth: Cymru O’r Normaniaid Hyd Glyndŵr
Oes Yr Ymerodraeth: Prydain Ac Iwerddon, 1850-1914
Rhyfel Algeria 1952-1964

Earth Observation From Satellites And Aircraft
Geographical Information Systems
Geographies Of Memory
Landscapes Of British Modernity
Palaeoenvironmental Change Beyond The Ice Sheets
Palaeoglaciology
Regional Geographies
River Systems And Global Environmental Change
Geographies Of The Global Countryside
People, Climate And Environment: A Palaeoenvironmental Perspective
Process Glaciology
Urban Risk And Environmental Resilience
Volcanic Activity: Hazards And Environmental Change
World Regional Islam
Earth Observation From Satellites And Aircraft
Geographical Information Systems
Geographies Of Memory
Landscapes Of British Modernity
Palaeoglaciology
Regional Geographies
River Systems And Global Environmental Change
Geographies Of The Global Countryside
People, Climate And Environment: A Palaeoenvironmental Perspective
Process Glaciology
Urban Risk And Environmental Resilience
Volcanic Activity: Hazards And Environmental Change
World Regional Islam
Early Modernity In Europe
The Challenge To Christendom
War & Society In History
An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914
East & West In The Age Of Crusades, C. 1070 - C. 1290
Germany Since 1945
Politics And Society In Twentieth-century Britain
Science, Religion And Magic
The Atlantic World, 1492-1825
Civil War And Revolution In Stuart Wales, 1603-1714
Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850
Culture, Society And The Victorians
Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power
From Black Death To Great Fire: The British Town 1349-1700
The British Isles And The ‘english Revolution’
The Soviet Union And The World, 1917-1991
Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850
War, Famine And Plague: England In The Fourteenth Century

Modules delivered partially or entirely through the medium of Welsh

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc
Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc
Adnoddau Dwr A Hydroleg Bydol
Daearyddiaethau Cenedlaetholdeb
Adnoddau Dwr A Hydroleg Bydol
Daearyddiaethau Cenedlaetholdeb
Concro'r Byd: Tŵf A Chwymp Ymerodraethau Prydain A Ffrainc
Gwrthdaro A Chydfodolaeth: Cymru O’r Normaniaid Hyd Glyndŵr
Oes Yr Ymerodraeth: Prydain Ac Iwerddon, 1850-1914
Rhyfel Algeria 1952-1964

Employability

Rhagolygon Gyrfaol
Mae profiad Aberystwyth yn cynnig taith o ddarganfod yr hunan yn ogystal â chynnig y sgiliau – yn llafar, ysgrifenedig, dadansoddol a rhyngbersonol – sy’n sail dda i lwyddo mewn marchnad waith hynod gystadleuol. Mae’r gallu i werthuso problemau cymhleth a chyflwyno dadansoddiad beirniadol, mewn adroddiad ysgrifenedig neu mewn cyflwyniad llafar, yn rhan bwysig o’r hyn a olyga gradd mewn Daearyddiaeth a Hanes Cymru.

Bydd y cwrs gradd hwn yn gymorth iti ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol a gwybodaeth gyffredinol ac arbenigol berthnasol. Mae daearyddwyr yn cael eu cyflogi mewn amrywiaeth eang o broffesiynau, yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein graddedigion yn gweithio i Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol, elusennau a chyrff yn y sector gwirfoddol, a chwmnïau preifat, ac fel ymgynghorwyr amgylcheddol, athrawon, cynllunwyr a swyddogion datblygu economaidd, ymhlith llawer o swyddi eraill. Bydd elfen ddaearyddol y cwrs hwn yn dy baratoi am yrfaoedd ym maes daearyddiaeth a’r amgylchedd sydd yn gofyn am ddealltwriaeth a sgiliau eang a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg mewn byd amlieithog.

Bydd llawer o raddedigion yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn mynd i weithio mewn meysydd sy’n uniongyrchol berthnasol i’r pwnc, fel archifau, y diwydiant treftadaeth ac amgueddfeydd, tra bydd eraill yn cael gwaith mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol eraill. Mae’r meysydd hynny’n cynnwys newyddiaduraeth, y cyfryngau, hysbysebu, y gyfraith, llywodraeth leol, llyfrgellyddiaeth, rheoli cofnodion, amrywiaeth o swyddi sy’n ymwneud ag ymchwil, ysgrifennu’n broffesiynol, yr heddlu a’r gwasanaeth milwrol, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli personel.

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd.

Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn Daearyddiaeth a Hanes Cymru yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
• ymchwilio a dadansoddi data
• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
• gallu gweithio’n annibynnol
• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
• sgiliau technoleg gwybodaeth

Blwyddyn Mewn Gwaith
Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i fyfyriwr israddedig gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Unedig neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall dy helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol dy helpu i ystyried dy opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales
Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle iti ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi dy CV ac yn dy wneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Teaching & Learning

Beth fyddi di’n ei ddysgu?
Mae modiwlau craidd y radd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil sylfaenol yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o faterion a syniadaethau craidd daearyddiaeth a hanes, gyda phwyslais amlwg ar hanes Cymru.

Bwriad modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw rhoi sail eang o wybodaeth wrth i ti baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd y modiwlau hyn yn dy gyflwyno i gysyniadau a dadleuon allweddol yn ogystal â phynciau pwysicaf daearyddiaeth a hanes Cymru.

Yn yr ail a’r drydded flwyddyn, cei gyfle i arbenigo yn y meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf i ti. Bydd disgwyl iti gwblhau’r modiwlau craidd ar gyfer y cynllun a thraethawd hir. Byddi fel arall yn adeiladu dy gwrs dy hun drwy ddewis o fodiwlau amrywiol.

Sut byddi’n cael dy ddysgu?
Ar y cwrs hwn byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr.

Mae’r ddwy Adran wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn gymryd rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau fydd yn digwydd. Mae’r nifer fach o fyfyrwyr fydd ym mhob grŵp seminar yn golygu y byddi’n derbyn llawer o sylw gan y darlithwyr.

Mae’r tiwtorialau personol yn rhoi cyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan dy ddarlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, a bydd seminarau yn gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno
.
Tiwtor Personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i ti am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Entry Requirements

A Levels BBB with B in Geography, ABB without Geography

GCSE requirements (grade C min):
English or Welsh, Mathematics

BTEC National Diploma:
DMM-DDM with specified subject

International Students

International Baccalaureate:
28-30 points overall with 4-5 points in Geography at Higher Level

European Baccalaureate:
65-75% overall with 70% in specified subject

Back to the top