BA Geography / International Politics

The information on this page relates to September 2016 entry. For 2017 information, including grade requirements, please check our prospectus.

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Anrhydedd Cyfun mewn Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi’n dewis astudio mewn dwy adran uchel iawn eu bri. Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yw un o’r adrannau mwyaf ei maint, a’r mwyaf byrlymus o’i math ym Mhrydain. Mae adnoddau gwych yn yr adran ar gyfer dysgu ac addysgu – sy’n berffaith i dy helpu i gael y canlyniadau gorau posibl ac i archwilio meysydd newydd a chyffrous. Mae Daearyddwyr yn astudio’r prosesau dynol a ffisegol sy’n ffurfio’r ddaear, a’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol a gwyd yn sgîl rhyngweithio rhwng pobl a’r ddaear, ac o ddewis Aberystwyth byddi’n dewis un o’r mannau gorau posib i astudio Daearyddiaeth.

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw’r ganolfan orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch gyfeillgar. Ceir cyfleoedd i ddatgblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfa ac mae hyn oll wedi’i leoli mewn amgylchedd bywiog a chosmopolitaidd yng nghalon campws y Brifysgol.

I ddysgu mwy am y cwrs cyfrwng Cymraeg arbennig hwn, ehanga’r testun isod...

Overview

Mae elfen ddaearyddol y cwrs gradd yn gyfuniad o ddaearyddiaeth ffisegol a dynol, a byddi’n profi amrywiaeth y ddisgyblaeth ar draws y prosesau ffisegol a dynol sy’n llunio tirweddau a lleoedd ledled y byd. Wrth ddilyn y cwrs byddi hefyd yn astudio’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol sy’n codi yn sgîl perthynas dyn â’r ddaear. Defnyddir enghreifftiau o bedwar ban byd, ond mae llawer o’r modiwlau’n canolbwyntio’n benodol ar Gymru ac ar ei daearyddiaeth a’i hamgylchedd.

Mae’r angen i ystyried materion daearyddiaeth ffisegol a dynol fel pynciau cysylltiedig, yn hytrach nac ar wahân, yn dod yn fwyfwy pwysig yn y byd sydd ohoni. I gynllunio ar gyfer effeithiau daeargrynfeydd mae angen deall y prosesau ffisegol a’r ystyriaethau dynol. Mae cynllunio ar gyfer adnoddau dŵr y dyfodol yn gofyn am ddealltwriaeth o hydroleg ac o wleidyddiaeth. Mae dadl a her newid hinsawdd yn gofyn am ddealltwriaeth o’r atmosffer a’r economi. Bydd elfen hon y cwrs yn dy baratoi am yrfaoedd ym maes daearyddiaeth a’r amgylchedd sydd yn gofyn am ddealltwriaeth a sgiliau eang, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg mewn byd amlieithog.

Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc hollol ddeinamig, ac mae’n ymwneud â grym a chyfiawnder, gwrthdaro a chydweithio. Mae elfen hon y radd yn astudio cyflwr dynoliaeth a’r modd y mae cymdeithasau dynol yn ymwneud â’i gilydd ac yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae’r astudiaeth o Wleidyddiaeth Ryngwladol fel rhan o’r cwrs gradd hwn yn gyffrous a rhyngddisgyblaethol ac yn cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu.

Ceir cyfleoedd yn yr Adran i ddatgblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfaoedd, ac rydym yn cynnig cynllun lleoliadau yn Nhŷ’r Cyffredin a’r Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â rhaglenni cyfnewid gyda gwledydd Ewropeaidd, Canada ac Awstralia i’n myfyrwyr. Rydym yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr efelychu argyfyngau gwleidyddol ar gyrsiau maes cyffrous, ac mae hyn oll wedi ei leoli mewn amgylchedd bywiog a chosmopolitaidd yng nghalon campws y Brifysgol.

Pam Astudio Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Mae Aberystwyth yn llleoliad gwych i astudio Daearyddiaeth – rhwng y môr a’r mynydd ar arfodir hardd Ceredigion. Mae’r adran yn gartref i labordai ac ystafelloedd cyfrifiadurol o’r radd flaenaf ac yn rhan o’r cwrs bydd myfyrwyr yn gwneud gwaith maes dwys ac yn cael cyfle i deithio. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2014, cafodd ADGD ei enwi fel yr adran Ddaearyddiaeth gorau yng Nghymru, gyda 78% o'r ymchwil yn cael ei gydnabod fel rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn y pymtheg uchaf o adrannau Daearyddiaeth y yn Deyrnas Unedig o ran pŵer ymchwil, sy'n mesur o ansawdd yr ymchwil, yn ogystal ag y nifer y staff sy'n ymchwilio o fewn yr adran.

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr am 2015 yn dangos lefelau uchel o fodlonrwydd mewn cyrsiau Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol a’r Gwyddorau Amgylcheddol, a nododd 91% eu bodolonrwydd ag ansawdd y dysgu. Roedd bodlonrwydd cyffredinol yn uwch na’r cyfartaledd yn y pwnc yn y DG.

Roedd 96% o’n graddedigion Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear mewn gwaith neu astudiaethau pellach 6 mis ar ôl graddio, sydd 11 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 3 phwynt canran yn uwch na’r cyfartaledd yn y pwnc yn y DG (DLHE 2014).

Mae mwy na 30 o staff darlithio yn yr Adran, felly gallwn ddysgu ystod anferth o fodiwlau arbenigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau: o newid yn yr hinsawdd, sut mae ffrwydradau llosgfynyddoedd yn effeithio ar yr amgylchedd, y tueddiadau cyfoes mewn geoberyglon, diflaniad niferoedd mawr o rywogaethau, gwyddoniaeth fforensig, cynaliadwyedd trefol, datblygu rhanbarthau, a dyfodol y genedl-wladwriaeth.

Mae cynlluniau gradd yr adran yn gyson yn ennyn lefel uchel o foddhad myfyrwyr sy’n cael ei gydnabod yn Arolwg Cenedlaethol Blynyddol y Myfyrwyr. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi ennill y raddfa gyffredinol uchaf am foddhad myfyrwyr am ein cynlluniau gradd.

Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath. Mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae’r awyrgylch dysgu cynhyrfus a chosmopolitaidd yma yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn gartref bywiog i drafodaeth wleidyddol gyfoes. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol. Mae’r Adran yn enwog am ei gwaith ymchwil arloesol ac yn cael ei chydnabod yr orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), cafodd yr Adran ei enwi fel yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gorau yng Nghymru a seithfed gorau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil, gyda 69% o gyhoeddiadau a gyflwynwyd o safon sydd gyda’r dosbarthiadau Gorau yn y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol. 

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr am 2015 yn dangos lefelau uchel o fodlonrwydd ymhlith myfyrwyr Gwleidyddiaeth, a nododd 92% eu bodolonrwydd ag ansawdd y dysgu, sy’n uwch na’r cyfartaledd yn y pwnc yn genedlaethol.

Mae’r adran yn rhedeg Cynllun Lleoliadau Tŷ’r Cyffredin a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gennym fantais fawr arall yn Aberystwyth gan mai dyma gartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn llyfrgell hawlfraint. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau. Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd wrth law. Trwy ddewis dod yma i Aberystwyth byddi hefyd yn dod yn rhan o fwrlwm o ddarlithoedd cyhoeddus, lansiadau, perfformiadau a sgyrsiau sy’n digwydd yn gyson trwy’r flwyddyn yn y Brifysgol ei hun a thu hwnt.

Our Staff

Department of Geography and Earth Science: lecturers are all qualified to PhD level or working towards a PhD.

Lecturers in the Department of International Politics are all research active and qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Course Content

Welsh medium modules available

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Year 1 Core (30 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Cefn Gwlad A'r Ddinas DA10210

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 1 DA11900

Semester 2

Pobl A Lle DA10110

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 1 DA11910

Year 1 Options All students MUST take the Department's core module Exploring the International 1 and 2 (40 credits over both semesters)

Semester 1

Cyflwyniad I Wleidyddiaeth Ryngwladol 1 GW12420

Exploring The International 1 IP12420

Semester 2

Cyflwyniad I Wleidyddiaeth Ryngwladol 2 GW12520

Exploring The International 2 IP12520

Year 1 Options Part One students may take the following optional modules

Semester 1

Behind The Headlines IP12620

The Making Of The Modern World: International History Since 1789 IP12820

Understanding The Social World SA10120

Semester 2

War, Strategy And Intelligence IP10320

Approaching The Political IP10820

Year 1 Options Dylai myfyrwyr gymryd 50 credyd, naill ai o'r rhestr isod, neu o fodiwlau priodol eraill a gynygir yn ADGD

Semester 1

Amgylcheddau Wyneb Y Ddaear DA10610

The Atmosphere And The Water Cycle EA12210

Key Concepts And Skills For Geographers GG13000

Semester 2

Amgylchedd Cymru DA10810

Methodoleg Maes Amgylcheddol DA10910

Byw Gyda Risg DA12810

Cofnod Daearegol Bywyd Ar Y Ddaear GA10210

Global Ecology And Soil Systems GG10410

Climate Change: Impacts, Perceptions, Adaptations GG10810

Global Environmental Issues GG12710

Key Concepts And Skills For Geographers GG13020

Power, Place And Development GG14210

Year 1 Options Student wishing to study modules through the medium of Welsh can take the following:

Semester 1

Cefn Gwlad A'r Ddinas DA10210

Y Tu ôl I'r Penawdau GW12620

Creu'r Byd Modern: Hanes Ryngwladol Ers 1789 GW12820

Concwest, Uno A Hunaniaeth Yng Nghymru 1250-1800 HC11120

Cymru A'r Byd: Cysylltiadau A Dylanwadau 1860 - 2000 HC11520

Semester 2

Pobl A Lle DA10110

Amgylchedd Cymru DA10810

Rhyfel Strategaeth A Chuddwybodaeth GW10320

Defnyddio Syniadau Gwleidyddol GW11220

Argyfwng, Gwrthryfel A Ffydd Yn Ewrop C.1000-1540 HA10820

Year 2 Core (20 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2 DA22100

Researching People And Place GG20510

Semester 2

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2 DA22110

Year 2 Core (20 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2 DA22100

Researching People And Place GG20510

Semester 2

Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2 DA22110

Year 2 Options Student must take the following Degree Scheme Core Module (IP30120 or GW30120) in International Politics before being eligible for graduation.

Semester 2

Theorizing International Relations IP30120

Year 2 Options (20 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis naill ai DA22420 neu GG22420

Semester 2

Gwaith Maes Daearyddiaeth DA22420

Geography Fieldwork GG22420

Year 2 Options (40 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod neu o fodiwlau priodol eraill a gynygir yn ADGD

Semester 1

Cyfathrebu Cymdeithas A Gwyddor DA28610

Lleoli Gwleidyddiaeth DA28700

Placing Culture GG28500

Sustainability And Resilience GG28910

Semester 2

Gwaith Maes Daearyddiaeth DA22420

Lleoli Gwleidyddiaeth DA28720

Geohazards EA22810

Concepts For Geographers GG20410

Geography Fieldwork GG22420

Placing Culture GG28520

The Welsh Environment GG29110

Year 2 Options (40 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod.

Semester 1

Geomorffoleg Afonol DA22510

Cyfathrebu Cymdeithas A Gwyddor DA28610

Lleoli Gwleidyddiaeth DA28700

Placing Culture GG28500

Sustainability And Resilience GG28910

Semester 2

Hanes Amgylcheddol DA22710

Lleoli Gwleidyddiaeth DA28720

Placing Culture GG28520

The Welsh Environment GG29110

Available both years Options Students must take 120 of their 240 credits in Part Two (year 2 & final year) in International Politics dept; and should also take 120 credits in their `home' department (usually 60 credits from each per year) -including core module credits

Semester 1

Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920

Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed GQ33420

Amlddiwylliannedd Mewn Polisi Ac Ymarfer GQ33720

Cymru A Datganoli GW35020

Cudd-wybodaeth A Diogelwch Rhyngwladol GW35620

The Vietnam War IP31920

Nato: The Making And Breaking Of Alliances IP33320

European Politics IP33820

The Ethics Of War In Theory And Practice IP34320

Wales And Devolution IP35020

Warfare After Waterloo: Military History 1815 - 1918 IP35320

Intelligence And International Security IP35620

The Past And Present Of Us Intelligence IP36020

Warfare In The 20th Century:technology And Strategy IP36520

Contemporary Latin America IP38720

The League Of Nations IQ32420

Capitalism And International Politics IQ32820

Total War, Total Peace IQ33420

Multiculturalism In Policy And Practice IQ33720

Semester 2

Damcaniaethau Gwleidyddiaeth GW32220

Gwleidyddiaeth Ryngwladol A Bydoedd Anorllewinol GW39220

Theorizing International Relations IP30120

War, Politics And Strategy IP30320

Special Forces: Theory And Practice IP31520

The Cold War IP32020

Political Theory IP32220

Eu Simulation IP34020

Ideas And Practice In American Politics IP34420

The Cuban Missile Crisis IP35520

America At War: A Military History Of The United States IP36920

Britain And Ireland In War And Peace Since 1800 IP38820

International Politics And Non-western Worlds IP39220

Global Economic Governance IQ30820

Espionage Studies IQ31320

Global Health And International Politics IQ32020

Gender And Sexuality In Latin America IQ32320

The Diplomacy Of Decline: Britain & World Politics 1851-2001 IQ32620

Aesthetics, Image And Narrative In Global Politics IQ33620

Year 3 Core (20 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc DA34200

Semester 2

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc DA34220

Year 3 Core (20 Credits) Mae'r modiwlau canlynol yn fodiwlau craidd.

Semester 1

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc DA34200

Semester 2

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/prif Bwnc DA34220

Year 3 Options (40 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod.

Semester 1

Adnoddau Dwr A Hydroleg Bydol DA31620

River Systems And Global Environmental Change GG30420

Earth Observation From Satellites And Aircraft GG32020

Geographical Information Systems GG32820

Palaeoglaciology GG33920

Landscapes Of British Modernity GG36220

Geographies Of Memory GG37920

Regional Geographies GG39920

Semester 2

Daearyddiaethau Cenedlaetholdeb DA32220

Volcanic Activity: Hazards And Environmental Change EA30420

Process Glaciology GG30320

People, Climate And Environment: A Palaeoenvironmental Perspective GG33720

Geographies Of The Global Countryside GG36820

Urban Risk And Environmental Resilience GG37520

World Regional Islam GG38420

Year 3 Options (60 credyd) Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 60 credyd o'r modiwlau isod.

Semester 1

Adnoddau Dwr A Hydroleg Bydol DA31620

River Systems And Global Environmental Change GG30420

Earth Observation From Satellites And Aircraft GG32020

Geographical Information Systems GG32820

Palaeoenvironmental Change Beyond The Ice Sheets GG33120

Palaeoglaciology GG33920

Landscapes Of British Modernity GG36220

Geographies Of Memory GG37920

Regional Geographies GG39920

Semester 2

Daearyddiaethau Cenedlaetholdeb DA32220

Volcanic Activity: Hazards And Environmental Change EA30420

Process Glaciology GG30320

People, Climate And Environment: A Palaeoenvironmental Perspective GG33720

Geographies Of The Global Countryside GG36820

Urban Risk And Environmental Resilience GG37520

World Regional Islam GG38420

Available both years Options Students must take 120 of their 240 credits in Part Two (year 2 & final year) in International Politics dept; and should also take 120 credits in their `home' department (usually 60 credits from each per year) -including core module credits

Semester 1

Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920

Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed GQ33420

Amlddiwylliannedd Mewn Polisi Ac Ymarfer GQ33720

Cymru A Datganoli GW35020

Cudd-wybodaeth A Diogelwch Rhyngwladol GW35620

The Vietnam War IP31920

Nato: The Making And Breaking Of Alliances IP33320

European Politics IP33820

The Ethics Of War In Theory And Practice IP34320

Wales And Devolution IP35020

Warfare After Waterloo: Military History 1815 - 1918 IP35320

Intelligence And International Security IP35620

The Past And Present Of Us Intelligence IP36020

Warfare In The 20th Century:technology And Strategy IP36520

Contemporary Latin America IP38720

The League Of Nations IQ32420

Capitalism And International Politics IQ32820

Total War, Total Peace IQ33420

Multiculturalism In Policy And Practice IQ33720

Semester 2

Damcaniaethau Gwleidyddiaeth GW32220

Gwleidyddiaeth Ryngwladol A Bydoedd Anorllewinol GW39220

Theorizing International Relations IP30120

War, Politics And Strategy IP30320

Special Forces: Theory And Practice IP31520

The Cold War IP32020

Political Theory IP32220

Eu Simulation IP34020

Ideas And Practice In American Politics IP34420

The Cuban Missile Crisis IP35520

America At War: A Military History Of The United States IP36920

Britain And Ireland In War And Peace Since 1800 IP38820

International Politics And Non-western Worlds IP39220

Global Economic Governance IQ30820

Espionage Studies IQ31320

Global Health And International Politics IQ32020

Gender And Sexuality In Latin America IQ32320

The Diplomacy Of Decline: Britain & World Politics 1851-2001 IQ32620

Aesthetics, Image And Narrative In Global Politics IQ33620

Teaching, Learning and Assessment

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

Mae elfen Ddaearyddol y cwrs gradd hwn yn cynnig cyfuniad o fodiwlau Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol sy’n cwmpasu pob agwedd ar y ddisgyblaeth. Byddi’n astudio materion cyfoes a pherthnasol yn amrywio o’r lleol i’r rhyngwladol. Byddi’n profi cyffro dysgu am y byd ffisegol a dynol nid yn unig mewn darlithoedd ond hefyd trwy gyfrwng darpariaeth ddysgu sydd ymhlith y mwyaf arloesol yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae modiwlau blwyddyn gyntaf elfen ddaearyddol y cynllun gradd hwn yn cynnwys pynciau fel ‘Byw gyda Risg’, ‘Pobl a Lle’, ‘Amgylchedd Cymru’ a ‘Cefn Gwlad a’r Ddinas’

Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, astudir y modiwlau tiwtorial craidd a’r modiwl craidd ‘Gwaith Maes Daearyddiaeth’. Mae nifer o fodiwlau dewisol cyfrwng Cymraeg arbenigol ar gael hefyd, gan gynnwys ‘Geomorffoleg Afonol’ ‘Hanes Amgylcheddol’, ‘Daearyddiaeth Cenedlaetholdeb’ a ‘Hanes Amgylcheddol’.

Bwriad modiwlau blwyddyn gyntaf yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw rhoi sail eang o wybodaeth i ti wrth baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd y modiwlau hyn yn dy gyflwyno i gysyniadau a dadleuon allweddol yn ogystal â phynciau pwysicaf gwleidyddiaeth ryngwladol. Cei ddewis o fodiwlau fel ‘Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol’, ‘Defnyddio Syniadau Gwleidyddol’ a ‘Gwleidyddiaeth y Byd yng Nghyfnod y Ddau Ryfel Byd’.

Yn yr ail a’r drydded flwyddyn, cei gyfle i arbenigo yn y meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf i ti. Bydd modiwlau craidd fel ‘Rhyfel, Gwleidyddiaeth a Strategaeth’ ‘Y Rhyfel Oer’, ‘Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol’ ar gael iti. Fel arall, galli adeiladu dy gwrs dy hun drwy ddewis modiwlau o raglen ddysgu Rhan Dau. Mae’r modiwlau hyn yn adlewyrchu’r ymchwil ddiweddaraf yn y maes, sy’n golygu bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael clywed y syniadau diweddaraf cyn iddynt hyd yn oed gael eu cyhoeddi a’u gwerthu yn y siopau llyfrau!

Sut byddi’n cael dy ddysgu?

Mae gan y cynllun strwythur modiwlaidd hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyfuno hyfforddiant hanfodol mewn sgiliau daearyddol allweddol â diddordebau arbenigol. Yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, cei dy ddysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, sesiynau tiwtorial, dosbarthiadau ymarferol, cyrsiau maes ac arolygu unigol, a chei dy asesu drwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol a gwaith cwrs, gan gynnwys traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau. Byddi hefyd yn cael dy asesu am waith fel dylunio gwefan, rhoi cyflwyniadau, cynnal arbrofion, ac ymchwilio i dy brosiect unigol dy hun.

O fewn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol byddi hefyd yn cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr. Mae rhai modiwlau yn Rhan Dau (yr ail a’r drydedd flwyddyn) yn defnyddio fformat seminarau’n unig, sydd fel rhagflas o astudiaethau Meistr, tra bod eraill yn defnyddio efelychiadau, chwarae rôl, a thechnegau diweddaraf e-ddysgu.

Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o arholiadau a thraethodau, ond defnyddir prosiectau, cyflwyniadau ac adolygiadau llyfr i asesu myfyrwyr o bryd i’w gilydd. Tiwtor Personol / Academaidd Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i ti am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Key Information Set