BA Welsh / International Politics

The information on this page relates to September 2016 entry. For 2017 information, including grade requirements, please check our prospectus.

Wrth ddewis astudio’r radd gyfun BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n rhannu dy amser rhwng Adran y Gymraeg a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, dwy adran uchel iawn eu bri. Adran y Gymraeg yw’r adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori.

Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc hollol ddeinamig. Mae’n adlewyrchu bywiogrwydd, egni a datblygiadau byd sy’n newid yn gyflym. Astudir elfen hon y cwrs yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef y ganolfan orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch cyfeillgar. Ceir cyfle o bob math hefyd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfaoedd.

I ddysgu mwy am y cwrs cyfrwng Cymraeg arbennig hwn, ehanga’r testun isod.

Overview

Pam Astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Byth oddi ar sefydlu’r Coleg yn Aberystwyth yn 1872, bu Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a’r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion mwyaf nodedig Cymru yn dysgu ac yn astudio yma.

Mae’r adran yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Yn ystod dy gyfnod yn fyfyriwr gyda ni byddi’n cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n cwmpasu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cei dy ddysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddi’n dilyn cwrs cyffrous a heriol.

Mae cymuned glos a chyfeillgar iawn o fewn Adran y Gymraeg ac mae’r staff yn ymfalchïo yn eu perthynas â’i myfyrwyr. Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf (2014), cafodd 90% o ymchwil yr adran ei graddio fel ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yn ogystal â hwn, cafodd hanner o’r holl ymchwil o’r adran cael ei dosbarthu yn rhagorol yn rhyngwladol a chwarter gyda’r gorau yn y byd. Wrth astudio yma byddi’n dyfnhau dy ddealltwriaeth o’r iaith, ei llenyddiaeth gyfoethog, a’i diwylliant. Yn Aberystwyth, mae’n anodd dianc o’r bwrlwm Cymraeg a Chymreig ac mae hynny’n fantais fawr i’r myfyrwyr sy’n dewis astudio Cymraeg fel pwnc.

Mae elfen Gwleidyddiaeth Ryngwladol y radd yn ymwneud â grym a chyfiawnder, gwrthdaro a chydweithio. Byddi’n astudio cyflwr dynoliaeth a’r modd y mae cymdeithasau dynol yn ymwneud â’i gilydd ac yn delio â phob math o newidiadau byd-eang, yn economaidd, diwylliannol a gwleidyddol. Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn bwnc cyffrous a rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys Gwleidyddiaeth, Hanes, Athroniaeth, y Gyfraith, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg er mwyn ceisio deall y byd o’n cwmpas a’r problemau sy’n ei wynebu.

Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath. Mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol. Mae’r Adran yn enwog am ei gwaith ymchwil arloesol ac yn cael ei chydnabod yr orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), cafodd yr Adran ei enwi fel yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gorau yng Nghymru a seithfed gorau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil, gyda 69% o gyhoeddiadau a gyflwynwyd o safon sydd gyda’r dosbarthiadau Gorau yn y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol. 

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr am 2015 yn dangos lefelau uchel o fodlonrwydd ymhlith myfyrwyr Gwleidyddiaeth, a nododd 92% eu bodolonrwydd ag ansawdd y dysgu, sy’n uwch na’r cyfartaledd yn y pwnc yn genedlaethol.

Mae gennym fantais fawr arall yn Aberystwyth gan mai dyma gartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn llyfrgell hawlfraint. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau. Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd wrth law. Trwy ddewis dod yma i Aberystwyth byddi hefyd yn dod yn ran o fwrlwm o ddarlithoedd cyhoeddus, lansiadau, perfformiadau a sgyrsiau sy’n digwydd yn gyson trwy’r flwyddyn yr yr Adran ei hun a’r tu hwnt.

Our Staff

All academic staff in the Department of Welsh and Celtic Studies are research active scholars and experts in their chosen fields of study, including the study of languages and literatures as well as creative writing.

Lecturers in the Department of International Politics are all research active and qualified to PhD level, and most also have a PGCHE.

Course Content

Welsh medium modules available

Please note: The modules listed below are those currently intended for delivery during the next academic year and may be subject to change. They are included here to give an indication of how the course is structured.

Year 1 Core (40 Credits) Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf astudio'r modiwlau canlynol

Semester 1

Themâu A Ffigurau Llên C.550-1900 CY10110

Cymraeg Ddoe A Heddiw 1 (iaith Gyntaf) CY10300

Seminarau Iaith A Llên (iaith Gyntaf) CY10400

Semester 2

Beirdd A Llenorion O 1900 Hyd Heddiw CY10210

Cymraeg Ddoe A Heddiw 1 (iaith Gyntaf) CY10310

Seminarau Iaith A Llên (iaith Gyntaf) CY10410

Year 1 Core (40 Credits) Rhaid i bob myfyriwr ail iaith astudio'r modiwlau canlynol

Semester 1

Llenyddiaeth O 1900 Hyd Heddiw CY10610

Cymraeg Ysgrifenedig 1 CY10710

Semester 2

Braslun O Hanes Ein Llên CY10510

Cymraeg Ysgrifenedig 2 CY10810

Year 1 Options All students MUST take the Department's core module Exploring the International 1 and 2 (40 credits over both semesters)

Semester 1

Cyflwyniad I Wleidyddiaeth Ryngwladol 1 GW12420

Exploring The International 1 IP12420

Semester 2

Cyflwyniad I Wleidyddiaeth Ryngwladol 2 GW12520

Exploring The International 2 IP12520

Year 1 Options Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf ddewis modiwlau gwerth 20 credyd o blith y canlynol

Semester 1

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar I CY12510

Semester 2

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar Ii CY12610

Year 1 Options Rhaid i bob myfyrwir ail iaith astudio CY12810 a CY12910

Semester 1

Trafod Y Byd Cyfoes Trwy'r Gymraeg I CY12810

Semester 2

Trafod Y Byd Cyfoes Trwy'r Gymraeg Ii CY12910

Year 1 Options Part One students may take the following optional modules

Semester 1

Behind The Headlines IP12620

The Making Of The Modern World: International History Since 1789 IP12820

Understanding The Social World SA10120

Semester 2

War, Strategy And Intelligence IP10320

Approaching The Political IP10820

Year 1 Options Student wishing to study modules through the medium of Welsh can take the following:

Semester 1

Cefn Gwlad A'r Ddinas DA10210

Y Tu ôl I'r Penawdau GW12620

Creu'r Byd Modern: Hanes Ryngwladol Ers 1789 GW12820

Concwest, Uno A Hunaniaeth Yng Nghymru 1250-1800 HC11120

Cymru A'r Byd: Cysylltiadau A Dylanwadau 1860 - 2000 HC11520

Semester 2

Pobl A Lle DA10110

Amgylchedd Cymru DA10810

Rhyfel Strategaeth A Chuddwybodaeth GW10320

Defnyddio Syniadau Gwleidyddol GW11220

Argyfwng, Gwrthryfel A Ffydd Yn Ewrop C.1000-1540 HA10820

Year 2 Options Mae Gloywi Iaith yn orfodol i fyfyrwyr Iaith Gyntaf yn eu hail flwyddyn.

Semester 1

Gloywi Iaith CY20100

Semester 2

Gloywi Iaith CY20120

Year 2 Options Student must take the following Degree Scheme Core Module (IP30120 or GW30120) in International Politics before being eligible for graduation.

Semester 2

Theorizing International Relations IP30120

Year 2 Options Mae Cymraeg Llyfr a Llafar yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaithyn eu hail flwyddyn.

Semester 1

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar I CY20210

Semester 2

Cymraeg Llyfr A Chymraeg Llafar Ii CY20310

Available both years Options Students must take 120 of their 240 credits in Part Two (year 2 & final year) in International Politics dept; and should also take 120 credits in their `home' department (usually 60 credits from each per year) -including core module credits

Semester 1

Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920

Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed GQ33420

Amlddiwylliannedd Mewn Polisi Ac Ymarfer GQ33720

Cymru A Datganoli GW35020

Cudd-wybodaeth A Diogelwch Rhyngwladol GW35620

The Vietnam War IP31920

Nato: The Making And Breaking Of Alliances IP33320

European Politics IP33820

The Ethics Of War In Theory And Practice IP34320

Wales And Devolution IP35020

Warfare After Waterloo: Military History 1815 - 1918 IP35320

Intelligence And International Security IP35620

The Past And Present Of Us Intelligence IP36020

Warfare In The 20th Century:technology And Strategy IP36520

Contemporary Latin America IP38720

The League Of Nations IQ32420

Capitalism And International Politics IQ32820

Total War, Total Peace IQ33420

Multiculturalism In Policy And Practice IQ33720

Semester 2

Damcaniaethau Gwleidyddiaeth GW32220

Gwleidyddiaeth Ryngwladol A Bydoedd Anorllewinol GW39220

Theorizing International Relations IP30120

War, Politics And Strategy IP30320

Special Forces: Theory And Practice IP31520

The Cold War IP32020

Political Theory IP32220

Eu Simulation IP34020

Ideas And Practice In American Politics IP34420

The Cuban Missile Crisis IP35520

America At War: A Military History Of The United States IP36920

Britain And Ireland In War And Peace Since 1800 IP38820

International Politics And Non-western Worlds IP39220

Global Economic Governance IQ30820

Espionage Studies IQ31320

Global Health And International Politics IQ32020

Gender And Sexuality In Latin America IQ32320

The Diplomacy Of Decline: Britain & World Politics 1851-2001 IQ32620

Aesthetics, Image And Narrative In Global Politics IQ33620

Available both years Options 60 - 100 o gredydau o blith modiwlau Lefel 2/3 yn yr Adran

Semester 1

Rhyddiaith Y Dadeni CY33620

Llenyddiaeth Glasurol A Phoblogaidd, 1740-1800 CY33920

Y Gynghanedd: Cwrs Trochi CY34520

Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35320

Llydaweg I Ddechreuwyr I LL20120

Semester 2

Y Cynfeirdd Diweddar CY33120

Y Chwedl Arthuraidd Cyn 1100 CY33420

Ysgrifennu Creadigol CY34120

Traddodiad Benywaidd? Merched A Barddoniaeth 1400-1800 CY34220

Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35420

Both Semesters

Ysgrifennu Creadigol CY34100

Final Year Options Mae'r modiwl yma yn orfodol yn y drydedd flwyddyn i fyfyrwyr Ail Iaith.

Semester 1

Gloywi Iaith CY20100

Semester 2

Gloywi Iaith CY20120

Final Year Options Ar gael yn y flwyddyn olaf yn unig

Semester 1

Traethawd Estynedig CY35100

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35600

Semester 2

Traethawd Estynedig CY35120

Y Gymraeg Yn Y Gweithle CY35620

Available both years Options Students must take 120 of their 240 credits in Part Two (year 2 & final year) in International Politics dept; and should also take 120 credits in their `home' department (usually 60 credits from each per year) -including core module credits

Semester 1

Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920

Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed GQ33420

Amlddiwylliannedd Mewn Polisi Ac Ymarfer GQ33720

Cymru A Datganoli GW35020

Cudd-wybodaeth A Diogelwch Rhyngwladol GW35620

The Vietnam War IP31920

Nato: The Making And Breaking Of Alliances IP33320

European Politics IP33820

The Ethics Of War In Theory And Practice IP34320

Wales And Devolution IP35020

Warfare After Waterloo: Military History 1815 - 1918 IP35320

Intelligence And International Security IP35620

The Past And Present Of Us Intelligence IP36020

Warfare In The 20th Century:technology And Strategy IP36520

Contemporary Latin America IP38720

The League Of Nations IQ32420

Capitalism And International Politics IQ32820

Total War, Total Peace IQ33420

Multiculturalism In Policy And Practice IQ33720

Semester 2

Damcaniaethau Gwleidyddiaeth GW32220

Gwleidyddiaeth Ryngwladol A Bydoedd Anorllewinol GW39220

Theorizing International Relations IP30120

War, Politics And Strategy IP30320

Special Forces: Theory And Practice IP31520

The Cold War IP32020

Political Theory IP32220

Eu Simulation IP34020

Ideas And Practice In American Politics IP34420

The Cuban Missile Crisis IP35520

America At War: A Military History Of The United States IP36920

Britain And Ireland In War And Peace Since 1800 IP38820

International Politics And Non-western Worlds IP39220

Global Economic Governance IQ30820

Espionage Studies IQ31320

Global Health And International Politics IQ32020

Gender And Sexuality In Latin America IQ32320

The Diplomacy Of Decline: Britain & World Politics 1851-2001 IQ32620

Aesthetics, Image And Narrative In Global Politics IQ33620

Available both years Options 60 - 100 o gredydau o blith modiwlau Lefel 2/3 yn yr Adran

Semester 1

Rhyddiaith Y Dadeni CY33620

Llenyddiaeth Glasurol A Phoblogaidd, 1740-1800 CY33920

Y Gynghanedd: Cwrs Trochi CY34520

Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35320

Llydaweg I Ddechreuwyr I LL20120

Semester 2

Y Cynfeirdd Diweddar CY33120

Y Chwedl Arthuraidd Cyn 1100 CY33420

Ysgrifennu Creadigol CY34120

Traddodiad Benywaidd? Merched A Barddoniaeth 1400-1800 CY34220

Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif, 1900-79 CY35420

Both Semesters

Ysgrifennu Creadigol CY34100

Employability

Rhagolygon Gyrfa
Mae graddedigion Adran y Gymraeg yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, ac am bobl i gyfieithu ac i weinyddu mewn sawl cylch. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel cyhoeddi llyfrau, y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Mae graddedigion yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ddilyn eu gyrfaoedd. Mae rhai graddedigion wedi dilyn gyrfa yn y gwasanaeth sifil (yn enwedig y Swyddfa Dramor, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a’r Adran Datblygu Rhyngwladol); sefydliadau rhyngwladol (NATO, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig); mudiadau anllywodraethol (Amnest Rhyngwladol, Oxfam); ac ymchwil wleidyddol, gyda chwmnïau preifat yn ogystal ag yn San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop. Mae eraill yn dilyn gyrfa yn y lluoedd arfog, y cyfryngau (fel newyddiadurwyr neu gyflwynwyr radio neu deledu), y gyfraith a byd addysg.

Dewis poblogaidd arall yw aros o fewn addysg uwch, ac mae nifer uchel o raddedigion yn dewis aros i astudio am radd Meistr neu PhD yn y Brifysgol.

Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
• ymchwilio a dadansoddi data
• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
• gweithio’n annibynnol
• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
• sgiliau technoleg gwybodaeth

Blwyddyn Mewn Gwaith
Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i fyfyriwr israddedig gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Gyfunol neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall dy helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol dy helpu i ystyried dy opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales
Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle iti ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi dy CV ac yn dy wneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Teaching, Learning and Assessment

Beth fyddi di’n ei ddysgu?
Mae Adran y Gymraeg yn cynnig nifer o fodiwlau yn y flwyddyn gyntaf sy’n cynnwys arolwg o rai o uchafbwyntiau ein llên o’r chweched ganrif hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddi’n cael cyflwyniad beirniadol i ryddiaith a barddoniaeth ddiweddar wrth ddilyn y modiwlau hyn.

Mae cyfres o ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar hanes a thafodieithoedd y Gymraeg ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf yn y flwyddyn gyntaf, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn cael cyfres o seminarau iaith. Mae’r modiwl ar gyfryngau diwylliant yn un poblogaidd arall, sy’n olrhain y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo diwylliant yng Nghymru.

Yn ystod dy ail a dy drydedd flwyddyn, bydd dewis eang iawn o fodiwlau gen ti. Bydd y myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dewis o’r un modiwlau bellach. Mae’r modiwlau hynny’n cynnwys pethau mor amrywiol ag ‘Ysgrifennu Creadigol’, ‘Y Gymraeg: Iaith Dysg ac Iaith Cymdeithas’, ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ a ‘Hanes a Hanfodion Beirniadaeth Lenyddol’. Cei gyfle i ddewis a dethol modiwlau sydd o ddiddordeb penodol iti, neu ddewis rhai mwy galwedigaethol eu natur.

Bwriad modiwlau blwyddyn gyntaf yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw rhoi sail eang o wybodaeth i ti wrth baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd y modiwlau hyn yn dy gyflwyno i gysyniadau a dadleuon allweddol yn ogystal â phynciau pwysicaf gwleidyddiaeth ryngwladol. Byddi’n dilyn y modiwl craidd ‘Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol’. Galli hefyd ddewis o blith nifer o fodiwlau eraill sy’n adlewyrchu amrywiaeth gronolegol a thematig, fel y galli ddewis y pynciau sydd o ddiddordeb penodol iti.

Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, cei gyfle i arbenigo yn y meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf i ti. Mae enghreifftiau o fodiwlau yn cynnwys ‘Globaleiddio, Gwrthiant a Newid yng Ngwleidyddiaeth y Byd’, ‘Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol’ a ‘Rhyfel, Gwleidyddiaeth a Strategaeth’. Mae’r modiwlau hyn yn adlewyrchu’r ymchwil ddiweddaraf yn y maes, sy’n golygu bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael clywed y syniadau diweddaraf cyn iddynt hyd yn oed gael eu cyhoeddi a’u gwerthu yn y siopau llyfrau!

Sut y byddi’n cael dy ddysgu?
Yn Adran y Gymraeg gwneir y dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae i’r seminarau awyrgylch fwy anffurfiol, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Mae gwaith y myfyrwyr yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.

Yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr. Mae rhai modiwlau yn Rhan Dau (yr ail a’r drydedd flwyddyn) yn defnyddio fformat seminarau’n unig, sy’n rhagflas o astudiaethau Meistr, tra bod eraill yn defnyddio efelychiadau, chwarae rôl, a thechnegau diweddaraf e-ddysgu.

Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o arholiadau a thraethodau, ond defnyddir prosiectau, cyflwyniadau ac adolygiadau llyfr i asesu myfyrwyr o bryd i’w gilydd.

Tiwtor Personol
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti am gyfnod cyfan dy gwrs gradd, a bydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Key Information Set