PGCE Saesneg

Fel pwnc craidd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, mae Saesneg ar flaen y gad o ran cynnydd addysgol. Mae'r pwnc yn tanategu llwyddiant y disgyblion mewn pynciau eraill ac mae'n elfen bwysig mewn mentrau cenedlaethol sy'n ymwneud â llythrennedd. Mae'r cwrs yn ceisio rhoi'r hyder a'r sgiliau angenrheidiol i athrawon dan hyfforddiant fod yn athrawon Saesneg llwyddiannus sydd yn gallu cefnogi disgyblion a datblygu ymateb creadigol y disgyblion i iaith a llenyddiaeth. Mae'n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer deall y broses dysgu ac addysgu sy'n hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau dosbarth proffesiynol ardderchog a safonau dysgu uchel.

Key Facts

Caiff yr athrawon dan hyfforddiant eu cyflwyno i ystod o sgiliau dysgu hanfodol megis cynllunio a pharatoi gwersi, cwestiynu, egluro, marcio gwaith disgyblion, paratoi adnoddau, rheolaeth yn y dosbarth a strategaethau cadw trefn er mwyn cyflwyno athrawon Saesneg effeithlon, brwdfrydig a chreadigol. Mae TGCh yn darparu cyfleoedd i wella eich cyflwyniad yn y dosbarth ac mae'n elfen bwysig o'r cwrs.

Disgwylir i'r athrawon dan hyfforddiant gymryd rhan weithredol yn y cwrs; er enghraifft cyflwyno gwersi micro, creu adnoddau, datblygu sgiliau meddwl ac arbrofi â syniadau newydd ar gyfer dysgu Saesneg. Lluniwyd y cwrs i baratoi athrawon dan hyfforddiant i ddysgu Saesneg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar lefel CA3, CA4 ac ôl-16, gan gynnwys cyrsiau AS ac A2.

Mae astudio ffurfiau llenyddol yn rhan bwysig o'r cwrs a chyflwynir athrawon dan hyfforddiant i ddulliau o ddysgu rhyddiaith, barddoniaeth a drama a hefyd archwilio i ddulliau o ddysgu sgiliau ffeithiol a sylfaenol. Mae paratoi disgyblion ar gyfer arholiadau Cyfnod Allweddol 4 a Safon Uwch yn nodwedd ganolog o'r cwrs.

Bydd y rhai sy'n dewis dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg, seminarau ychwanegol a phenwythnosau trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal â seminarau'r prif bwnc, mae'r cwrs TAR hefyd yn paratoi athrawon dan hyfforddiant ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a materion addysgol, gan gynnwys:

  • Darpariaeth i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
  • Sgiliau allweddol
  • Sgiliau meddwl
  • Bagloriaeth Cymru
  • Cymorth Cyntaf
  • Amddiffyn plant
  • Addysg iechyd
  • Saesneg fel iaith ychwanegol
  • Asesu
  • Addysgu ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy
  • Cwricwlwm Cymreig

Gofynion Mynediad

Er mwyn cael eich ystyried am gyfweliad bydd yn rhaid i chi fod â gradd, a dylai o leiaf 50% o' r radd fod yn gysylltiedig â Saesneg. Rydym yn ystyried myfyrwyr gyda graddau mewn pynciau perthnasol, er enghraifft, Astudiaethau Cyfryngau. Bydd gan yr holl athrawon dan hyfforddiant fylchau yn eu gwybodaeth am y pwnc a diben y cwrs yw mynd i'r afael â hyn. Bydd yn rhaid i chi hefyd fod â gradd B mewn Mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU neu gymhwyster cyfwerth. Mae'r Brifysgol yn cynnig profion yn y pynciau hyn os nad oes gennych y cymwysterau hyn.

Course Content

Welsh medium modules available

Year 1 Core (120 Credits) Mae'n rhaid i bob myfyriwr gymryd y modiwlau canlynol:

Semester 1

Dysgu I Addysgu 1 AD37300

Dysgu I Addysgu 2 AD37400

Tar (uwchradd): Astudiaethau Proffesiynol ADM5700

Semester 2

Dysgu I Addysgu 1 AD37340

Dysgu I Addysgu 2 AD37440

Tar (uwchradd): Astudiaethau Proffesiynol ADM5740

How to Apply

I gyflwyno cais am gwrs Hyfforddiant Dysgu TAR defnyddiwch y wefan TAR UCAS. Fe fydd ceisiadau yn agor yn yr Hydref.

Find Out More

Related Courses: