PGCE

Welsh

Key Facts

Course Code 3DHH
  • Qualification

    PGCE

  • Typical Course Length

    1 Year

Apply Now

Mae cwrs Y Gymraeg yn anelu at alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ymarferwyr egnïol, creadigol, a brwdfrydig er mwyn cymell dysgwyr i ymateb yn feirniadol ac yn greadigol i iaith a llenyddiaeth. Anelir at feithrin disgyblion i ddod yn siaradwyr hyderus mewn amrywiol gyweiriau, yn ddarllenwyr brwd ac yn ysgrifennwyr hyderus fydd yn mynegi eu hunain yn glir a chroyw. Trwy weithio ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, byddwch yn hyfforddi i addysgu pobl ifanc i ddod yn bobl greadigol, uchelgeisiol, egwyddorol a hyderus wrth ddarganfod mwy am y gymdeithas a’r byd.

Key Facts

Anghenion mynediad

  • Gradd gyntaf sy’n cynnwys o leiaf 50% o’r Gymraeg. 
  • Rydym yn ystyried graddau mewn pynciau perthynol astudiwyd drwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Ni fydd gwybodaeth unrhyw fyfyriwr yn gyflawn, a chadwyd hyn mewn cof wrth gynllunio’r cwrs. 
  • Gradd B (gradd 5 yn Lloegr) mewn Mathemateg a Chymraeg/Saesneg ar lefel TGAU neu gyfwerth. 
  • Mae’r Brifysgol yn cynnig profion yn y pynciau yma os and oes gennych y cymwysterau angenrheidiol.
  • Mae cael profiad o arsylwi mewn ysgol yn fanteisiol. 
  • Bydd profion llythrennedd a rhifedd yn rhan o’r broses dewis a dethol ar ddiwrnod y cyfweliad.

Course Details

Cynnwys y cwrs 

Ar y cyd â’ch cyd-fyfyrwyr sy’n dilyn y cwrs cynradd a chyrsiau uwchradd eraill, byddwch yn astudio egwyddorion addysgeg effeithiol, asesu, cynllunio gwersi a chynllunio cwricwlwm. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn dysgu, cyfrannu at seminarau, cyflwyniadau ac yn rhoi ystyriaeth feirniadol i ymchwil. Yn ystod y cyfnodau yn y Brifysgol, byddwch yn cynllunio ac yn cyflwyno micro-wersi er mwyn paratoi at elfen ymarferol y cwrs. Byddwch yn astudio cwricwlwm Y Gymraeg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Dysgu a Chyfathrebu a byddwch yn cydweithio gyda myfyrwyr o feysydd pynciol eraill i ddatblygu eich arferion tra’n gweithio ar draws y cwricwlwm. 

Mae cwrs TAR Y Gymraeg yn ymwneud â dulliau damcaniaethol ac ymarferol o ddysgu’r Gymraeg i holl ystod oed uwchradd, gan gynnwys TGAU ac UG/U Y Gymraeg fel mamiaith ac ail Iaith. Bydd lleoliadau'n digwydd mewn Canolfannau Clwstwr Partneriaeth dethol lle bydd gan ysgolion gysylltiad agos â'r Brifysgol a lle bydd mentoriaid hyfforddedig yn arwain ac yn cefnogi eich datblygiad. Yn ystod y cyfnod ar leoliad, byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch mentor pwnc a Thiwtor Cyswllt y Brifysgol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol wrth addysgu. 

Yn ogystal â lleoliadau arbenigol mewn ysgolion uwchradd, cewch brofiad o leoliad byr mewn ysgol gynradd gydag athrawon cynradd sydd â sgiliau arbennig. Byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil gweithredol er mwyn datblygu elfen ar eich ymarfer a chychwyn eich gyrfa fel athro/athrawes sy’n hyddysg mewn ymchwil.

Teaching & Learning

Asesiad
Bydd sawl ffurf o asesu myfyrwyr, gan gynnwys traethodau, ysgrifennu myfyriol, cyflwyniadau, cynlluniau gwersi, a phroject ymchwil gweithredol. Nid oes arholiadau ffurfiol. Mae asesiad o’r ymarfer dysgu yn digwydd trwy gydol y tri lleoliad ac yn barhaus.

Themâu traws-gwricwlaidd
Mae pob athro/athrawes yn gyfrifol am addysgu tair thema draws-gwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd, a chymhwysedd digidol yng nghyd-destun eu pwnc eu hunain.